Ymarferiad y fyddin ar gyfer achosion o Ebola
Mae David Cameron wedi cyhoeddi y bydd gweithwyr iechyd sy’n rhoi triniaeth i gleifion Ebola yng Ngorllewin Affrica yn derbyn medalau.
Fe fydd y medalau yn arwydd o’r diolch a’r ddyled i’r meddygon, yn ogystal â’r lluoedd arfog a’r gweithwyr sifil sy’n ceisio achub bywydau mewn gwledydd fel Liberia, Guinea, Sierra Leone a Nigeria.
“Maen nhw’n bobol hynod o ddewr sydd wedi gweithio mewn amgylchiadau anodd, rhai ohonyn nhw dros y Nadolig hefyd,” meddai’r Prif Weinidog wrth ASau heddiw.
“Maen nhw’n helpu i achub bywydau miloedd o bobol ac yn gwneud yn siŵr nad yw’r afiechyd yn lledaenu i Brydain.”
Bydd y medalau yn barod i’w cyflwyno yn yr haf, ychwanegodd David Cameron.