Mark James
Mae Cyngor Sir Gâr wedi croesawu’r newyddion y bydd y prif weithredwr Mark James yn parhau yn ei swydd am y tro.
Daw’r penderfyniad yn sgil yr hyn y mae’r Cyngor yn ei alw’n “amser heriol iawn i gynghorau yng Nghymru.”
Roedd Mark James wedi gwneud cais am Derfynu Cyflogaeth ac fe ddaeth i’r amlwg ddechrau’r flwyddyn ei fod wedi cael cynnig £446,000 fel rhan o becyn am ddod â’i gytundeb i ben.
Cafodd ei feirniadu’r llynedd yn dilyn penderfyniad y Cyngor Sir i gynnig y tâl iddo ar draul cyfraniadau at ei bensiwn – taliadau oedd yn anghyfreithlon yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru.
Penderfynodd y Swyddfa Archwilio hefyd fod y Cyngor Sir wedi gweithredu’n anghyfreithlon trwy gefnogi achos o enllib a gafodd ei ddwyn gan Mark James yn erbyn un o drigolion y sir.
Roedd y ddau daliad wedi costio bron i £100,000 i drethdalwyr y sir.
‘Amser heriol’
Mewn datganiad, dywedodd y Cyngor: “Mae hwn yn amser heriol iawn i Gynghorau yng Nghymru wrth inni geisio gwneud toriadau enfawr yn ein cyllidebau, ac yr un pryd barhau i gynnal y gwasanaethau i bobl yn ein Sir.
“Rydym hefyd yn ansicr a fydd Sir Gaerfyrddin yn sefyll ar ei phen ei hun fel Cyngor ymhen ychydig flynyddoedd neu a fydd yn cael ei ddiddymu.”
Ychwanegodd y Cyngor fod arnyn nhw angen “Brif Weithredwr o’r radd flaenaf, hynod brofiadol ac uchel ei barch wrth y llyw” er mwyn “helpu’r Cyngor i ddod drwy gyfnodau helbulus o safbwynt ariannol ac o bosibl, o ran ad-drefnu”.
“Mae Mark wedi gwneud cymaint o gyfraniad i’n Sir dros y 13 mlynedd diwethaf, gan weddnewid ardaloedd fel Canol Tref Caerfyrddin, Llanelli, arfordir deheuol ein Sir a llawer o’n hysgolion a thai.
“Rydym yn gwybod y bydd yn parhau i weithio er budd ein Sir ac i arwain ein tîm rheoli newydd.”