Alan Bannister
Mae llys wedi clywed fod dyn o’r Barri wedi hawlio budd-daliadau anabledd gwerth £26,000 er ei fod yn chwaraewr golff penigamp.
Yn yr achos yn Llys y Goron Caerdydd, clywodd y rheithgor fod Alan Bannister, 54, wedi dweud nad oedd o’n medru cerdded mwy na 50 llath a’i fod yn ei chael hi’n anodd codi ei freichiau uwchben ei ysgwyddau.
Ond fe gafodd y cyn-bencampwr golf, a oedd yn arfer bod yn aelod o Glwb Golff St Andrews, ei ffilmio yn cerdded o gwmpas cwrs golff 18 twll gan dynnu troli gydag o.
Bu’n hawlio’r Lwfans Byw i’r Anabl am wyth mlynedd ar y sail fod ganddo grydcymalau cronig, clywodd y llys.
Mae Alan Bannister yn gwadu’r cyhuddiadau gan ddweud ei fod ond yn medru chwarae golff ar ôl cymryd tabledi lladd poen.
Mae’r achos yn parhau.