Mae’n 20 mlynedd bellach ers i un o aelodau’r Manic Street Preachers, Richey Edwards ddiflanu.

Roedd y band o’r Coed Duon yn aros yng ngwesty’r Embassy yn Llundain cyn eu taith i’r Unol Daleithiau ddiwedd mis Ionawr 1994.

Ond wrth i’r band baratoi i adael am y maes awyr, doedd dim sôn am Edwards, oedd wedi ysgrifennu nifer fawr o ganeuon cynnar y band.

Mae lle i gredu ei fod wedi ei throi hi am Gymru y bore hwnnw, ond aeth e ddim adref.

Bythefnos wedi ei ddiflaniad, cafodd ei gar ei ddarganfod ger Pont Hafren, ond doedd dim sôn am Edwards ei hun.

Cyhoeddodd yr awdurdodau yn 2008 eu bod nhw’n ystyried bod Edwards ‘wedi marw’ yn ôl y gyfraith, a hynny chwe blynedd ar ôl i’w rieni wrthod derbyn ei fod wedi marw.

Ymddangosodd gwaith Edwards ar albwm y Manics pan gafodd y gân ‘Judge Y’rself’ ei rhyddhau ar yr albwm ‘Lipstick Traces’ yn 2003, ac fe gafodd yr albwm ‘Journal For Plague Lovers’ ei rhyddhau yn 2009, a bron bob un o’r caneuon wedi’u hysgrifennu gan Edwards.

Ddiwedd y flwyddyn diwethaf, cafodd fersiwn newydd o’r albwm ‘The Holy Bible’ ei rhyddhau i nodi 20 mlynedd ers rhyddhau’r gwreiddiol, ac fe fydd y band yn perfformio’r caneuon mewn taith arbennig yn ddiweddarach eleni.