Mae dringwr wedi marw yn dilyn afalans eira yn Ucheldiroedd yr Alban.
Roedd adroddiadau nos Wener fod dau ddyn o Swydd Suffolk ar goll wedi iddyn nhw fethu â dychwelyd adref ar ôl mynd i ddringo mynydd Coireag Dubh Mor.
Cafodd y gwasanaethau achub eu galw ond fe fu’n rhaid iddyn nhw roi’r gorau i’r chwilio oherwydd y tywydd garw.
Ail-gydiodd y gwasanaethau achub yn y chwilio brynhawn ddoe ac fe gafwyd hyd i un o’r dynion yn ceisio chwilio am y llall.
Dywedodd Heddlu’r Alban fod y ddau yn ddringwyr profiadol a bod ganddyn nhw’r cyfarpar priodol.
Yn ôl y cofnodion diweddaraf yn 2012, roedd 720 o bobol wedi cael eu hachub o fynyddoedd yr Alban, gyda 240 wedi’u hanafu a 25 wedi marw.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Afalansau SportScotland wedi rhoi rhybudd i ddringwyr i fod yn ofalus ac i wisgo dillad a chyfarpar priodol wrth ddringo.