Llywelyn Williams
Plaid Cymru, yr SNP a’r Gwyrddion sydd yn cael y sylw yn y cyntaf mewn cyfres o flogiau gan Llywelyn Williams yn edrych ar gyfryngau cymdeithasol ac etholiad cyffredinol 2015 …
Mae 100 diwrnod yn weddill hyd at yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai.
100 diwrnod yn weddill o ymgyrchu o ddrws i ddrws, o areithio, o ddarllediadau gwleidyddol, a 100 diwrnod yn weddill wrth gwrs i wleidydd neu ohebydd gwleidyddol ddweud rhywbeth anghyfrifol ar Twitter!
Fel rhan o fy ngwaith ymchwil Meistr yn Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, gwerthuso dylanwad y cyfryngau cymdeithasol ar yr etholiad cyffredinol fydd rhan o fy nyletswydd i’r flwyddyn hon.
Mae’n argyhoeddi i fod yn flwyddyn gyffrous dros ben yng ngwleidyddiaeth Prydain, gydag ymddangosiad a thwf pleidiau amgen megis UKIP, y Blaid Werdd, yr SNP a Phlaid Cymru yn anelu at gynyddu nifer eu seddi a thynnu grym oddi ar y pleidiau traddodiadol megis y Ceidwadwyr, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Wrth weithio ar y cyd â golwg360 byddaf yn gobeithio cynnal cyfres o flogiau a fydd yn adeiladu ar hyn hyd at yr etholiad.
Bydd y blogiau yn cyd-fynd â fy ngwaith o ymchwilio i’r ffordd y mae pleidiau gwleidyddol, gohebwyr gwleidyddol a’r wasg newyddiadurol yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol wrth geisio lledaenu eu neges i’r cyhoedd am yr etholiad.
Y ddadl deledu
Cwta wythnos yn ôl fe gadarnhaodd y BBC ac ITV eu bod am gynnwys saith plaid fel rhan o’u dadleuon teledu gwleidyddol a fydd yn cael eu cynnal fis Ebrill. Mi fydd Sky News a Channel 4 dal yn parhau i gadw at ddadl y ddwy brif blaid – sef y Ceidwadwyr a Llafur.
Yn dilyn barn y Prif Weinidog David Cameron y dylai’r Blaid Werdd ymuno yn y ddadl, cyhoeddwyd yn ddiweddarach y byddai’r SNP a Phlaid Cymru’n ogystal yn ymuno a’r dadleuon, yn ogystal â phresenoldeb UKIP a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dylanwad Twitter
Isod fe welwch chi’r ymateb sydd wedi bod am y Blaid Werdd, yr SNP a Phlaid Cymru ar Twitter wedi’r cyhoeddiad y byddai’r pleidiau gwrth-lymder yma yn cael ymuno yn y ddadl.
Mae’r graff hon yn canolbwyntio ar nifer y trydariadau sydd wedi cynnwys y geiriau ‘Plaid Cymru’, yr ‘SNP’ a’r ‘Green Party’ o ddiwedd mis Rhagfyr hyd at bron i ddiwedd mis Ionawr.
Fel y gwelwch o 20-26 Ionawr, gwelwyd cynnydd aruthrol yn nifer y trydariadau rhwng y tair plaid wleidyddol adeg hynny, gyda ‘r SNP yn cynyddu i dros 10,000 o drydariadau mewn diwrnod, y Blaid Werdd yn dangos twf sylweddol a chynyddu o ddydd i ddydd, a Phlaid Cymru yn ogystal yn gweld mymryn o gynnydd, sydd wrth gwrs yn cyd-fynd â’r patrwm rhwng y tair plaid.
Faint o weithiau mae'r tair plaid wedi cael eu trafod ar Twitter dros y mis diwethaf
Arwyddocâd cyhoeddiad y dadleuon teledu
Fe gyhoeddwyd ar 22 Ionawr y byddai’r saith plaid wleidyddol yn cymryd rhan yn nadleuon ITV a’r BBC.
Er bod y tair plaid wedi gweld cynnydd y diwrnod hwnnw, mae’r SNP yn ymddangos yn llawer cryfach ar y cyfryngau cymdeithasol o’i gymharu â Phlaid Cymru a’r Gwyrddion, gyda gwahaniaeth o 8,000 o drydariadau rhwng yr SNP a Phlaid Cymru.
Ond edrychwch ar y Gwyrddion yn dal fyny â’r SNP o ran sylw gwleidyddol ar Twitter yn hwyrach wedi’r cyhoeddiad.
Fel un o’r pleidiau gwrth-lymder sydd â dylanwad yn Lloegr, a yw’r cynnydd yn dangos fod gan y boblogaeth yn Lloegr (ac yng Nghymru o bosib) fwy o ddiddordeb yn y Blaid Werdd yn sgil y cyhoeddiad?
Mae’n ddiddorol faint o gyhoeddusrwydd ar Twitter y mae’r pleidiau wedi’i weld yn sgil y diwrnod hwnnw.
Mae’r Blaid Werdd bellach gyda dros 100,000 o ddilynwyr, oddeutu 30,000 o ddilynwyr yn fwy na’r SNP – mae Plaid Cymru ar tua 12,000.
O bosib mae’r cyhoeddusrwydd a ddaeth o’r newyddion cenedlaethol wedi achosi cynnydd sydyn yn nifer y trydariadau sy’n sôn am y Blaid Werdd.
Poblogrwydd cyfrifon y Pleidiau ar Twitter yn gyffredinol
Dilynwyr @Plaid_Cymru
O ddefnyddio gwefan Followerwonk mae modd darganfod ystadegau o gyfrifon Twitter a cheisio darganfod pethau fel o ble yn y byd maen nhw’n tueddu i gael eu cefnogwyr.
Mae’n bosib nad yw’r ystadegau yn hollol ddibynadwy, ond mae’n bosib llunio gwerthusiad o ble mae’r pleidiau gwleidyddol yn cael eu cefnogaeth ar-lein.
Brasamcan o leoliad daearyddol hyd at 5,000 o ddilynwyr ydi hyn drwy ddefnyddio’r location field yng nghyfrifon y dilynwyr.
Dw i wedi lleoli poblogrwydd pleidiau ar sail y genedl maent yn eu cynrychioli, e.e. Plaid Cymru yng Nghymru, dilynwyr yr SNP yn yr Alban, gan osod y Blaid Werdd gyda Lloegr a Chymru, oherwydd eu diffiniad o ‘The Green Party of England and Wales’.
Dilynwyr @Plaid_Cymru – 12,000
Sylwer ar y map uchod fod y Gorllewin yn gryfach o lawer o ran lleoliad y dilynwyr o gymharu â dwyrain Cymru a Phenfro.
Hyn yn dilyn model ‘3 Cymru’ Balsom o bosib, ond ar y llaw arall, mae dalgylch Caerdydd yn gryf iawn.
Dilynwyr @theSNP
Dilynwyr @theSNP – 70,000
Sylwer ar y map hwn fod yno fwy o ddilynwyr yn ninasoedd mwyaf poblog yr Alban, sef Glasgow a Chaeredin. Mae Glasgow (o ran brasamcan) gyda mwy o ddilynwyr yr SNP o gymharu â Chaeredin.
Ai momentwm y bleidlais ‘Ie’ yn 2014 yw arwyddocâd hyn?
Dilynwyr @TheGreenParty – 101,000
Wrth edrych ar y map isod, mae’r Gwyrddion yn tynnu’r dilynwyr mwyaf o ardaloedd dinesig iawn. Tipyn gwannach yn y gogledd a go lew yn y canolbarth.
Unwaith eto, dydw i ddim yn credu bod modd cymryd y data yma gormod o ddifrif, amcangyfrif lleoliad eu dilynwyr maen nhw ar sail sampl o 5,000 o ddilynwyr.
Dilynwyr @TheGreenParty
Ond mae’n ddiddorol tu hwnt cael cip ar y data yn gyffredinol.
Bydd mwy o flogiau i ddod nes ymlaen yn ystod cyfnod yr etholiad.