Gary Glitter
Mae’r cyn ganwr roc Gary Glitter wedi dechrau rhoi tystiolaeth yn yr achos llys yn ei erbyn.
Mae Glitter, 70 oed, wedi ei gyhuddo o gyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn merched ifanc.
Dywedodd wrth y rheithgor heddiw bod ei gefnogwyr yn golygu popeth iddo, a phan oedd ei yrfa yn ei hanterth yn y 70au, fe fyddai wedi rhoi “unrhyw beth” iddyn nhw.
Mae’r llys eisoes wedi clywed fod y canwr wedi gwadu cam-drin y merched pan gafodd ei arestio gan yr heddlu ym mis Gorffennaf 2013, yn sgil sgandal Jimmy Savile.
Wrth gyfeirio at y ferch, sy’n honni bod Glitter wedi rhoi siampen iddi cyn ceisio cael rhyw gyda hi, dywedodd y canwr wrth yr heddlu nad oedd yn cofio’r digwyddiad 36 mlynedd yn ôl.
Mae Garry Glitter, neu Paul Gadd, wedi ei gyhuddo o un achos o geisio treisio ac un arall o ymosod yn anweddus ar ferch o dan 13 oed yn 1975.
Mewn perthynas â’r ail achwynydd, mae’n cael ei gyhuddo o bedwar cyhuddiad o ymosod yn anweddus pan oedd y ferch o dan 13 oed yn 1977. Mae hefyd wedi ei gyhuddo o roi alcohol i’r ferch gyda’r bwriad o gael rhyw gyda hi rhwng mis Ionawr a mis Mai 1977 a chyhuddiad arall o gyfathrach anghyfreithlon gyda’r ferch.
Mewn cysylltiad â thrydydd achwynydd, a oedd o dan 16 oed, mae wedi cael ei gyhuddo o ddau gyhuddiad o ymosod yn anweddus rhwng Hydref 1979 a Rhagfyr 1980.
Mae’r canwr, o Marylebone yng nghanol Llundain, yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn yn Llys y Goron Southwark.