Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad honedig ym mwyty Table Table yn Rhuddlan neithiwr.

Ychydig cyn 10yh, fe aeth tri unigolyn a oedd yn gwisgo dillad tywyll ac oedd â’u hwynebau wedi’u gorchuddio i mewn i’r bwyty ym Morfa, Rhuddlan a mynnu arian gan aelod o staff.

Wedi iddyn nhw gael yr arian fe wnaethon nhw ddianc o’r safle mewn cerbyd lliw tywyll a oedd yn disgwyl tu allan gyda gyrrwr.

“Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn ystod y digwyddiad ond roedd aelod o staff yn dioddef o sioc,” meddai’r Ditectif Arolygydd Mike Isaacs o CID Llanelwy.

“Mae ein hymholiadau’n parhau, mae Ymchwilwyr Lleoliadau Trosedd yno hefyd ac rydym yn edrych ar luniau CCTV fel rhan o’r gwaith.”

Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Isaacs: “Rwy’n annog unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus neu unrhyw gerbydau amheus yn yr ardal cyn neu ychydig ar ôl y digwyddiad neithiwr i gysylltu â ni yn CID Llanelwy.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth alw’r heddlu ar 101.