Mae ymchwilwyr yn Sbaen yn ceisio darganfod beth achosodd damwain awyren ar safle milwrol ble bu farw 11 o bobl a chafodd 20 eu hanafu.

Fe aeth yr awyren filwrol i drafferthion wrth geisio esgyn gan wrthdaro a  phump o awyrennau eraill ar y safle yn ystod ymarfer hyfforddi Nato yn Los Llanos yn ne-ddwyrain Sbaen.

Dywedodd Gweinyddiaeth Amddiffyn Sbaen mewn datganiad bod y ddau beilot oedd ar fwrdd yr F-16, oedd yn berchen i Wlad Groeg, wedi eu lladd yn y ddamwain ynghyd a naw aelod arall o’r Awyrlu Ffrengig a oedd yn gweithio ar y safle ar y pryd.

Cafodd 10 o Eidalwyr a 10 o Ffrancwyr hefyd eu hanafu, a chafodd pump eu cludo i ysbyty yn Madrid ar ôl dioddef llosgiadau difrifol.

Cafodd tair awyren jet o Ffrainc a dwy awyren jet o’r Eidal eu difrodi yn y ddamwain.