Elin Fflur fydd yn cyflwyno
Mae S4C wedi cyhoeddi enwau’r wyth cystadleuydd ar gyfer Cân i Gymru 2015, wrth i’r gystadleuaeth newid ei fformat.

Eleni fe fydd y cystadleuwyr yn cael eu mentora gan bedwar ffigwr adnabyddus o’r byd cerddorol yng Nghymru, cyn i’r pedwar gorau gael eu dewis ar gyfer y ffeinal.

Bydd yr enillydd yn cael eu dewis ar 7 Mawrth mewn rhaglen fydd unwaith eto yn cael ei darlledu ar S4C.

Elin Fflur fydd yn cyflwyno’r ffeinal o Bafiliwn Môn yng Ngwalchmai unwaith eto, gyda gwobr o £3,500 yn ogystal â’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon ar gael i’r enillydd.

Mentora

Llynedd fe enillodd Barry a Mirain Evans y gystadleuaeth gyda’r gân ‘Galw Amdanat Ti’ ar ôl dod i’r brig yn y bleidlais rhwng y chwech oedd yn y ffeinal.

Ond mae’r fformat wedi newid eleni, gyda phedwar mentor yn cymryd dau artist yr un o dan eu hadain cyn penderfynu pa un fyddan nhw’n ei anfon ymlaen i’r rownd derfynol.

Y pedwar mentor eleni fydd y gantores werin o Lanerfyl Siân James, prif leisydd Edward H Dafis Cleif Harpwood, prif leisydd yr Ods Griff Lynch, ac aelod o’r Sibrydion Mei Gwynedd.

Dyma’r wyth sydd wedi cael eu dewis ar gyfer y mentoriaid:

Neil Maliphant – ‘Pluen Wen’; Elin Angharad – ‘Y Lleuad a’r Sêr’ (Mentor: Cleif Harpwood)

Sera Owen – ‘Oes yn Ôl’; Team Panda – ‘Tynna Fi i’r Glaw’ (Mentor: Siân James)

Cai Morgan a Lewys Mann – ‘Tri Mis yn Ôl’; Pheena/Catrin Hopkins – ‘Cariad Pur’ (Mentor: Mei Gwynedd)

Darren Bolger – ‘O’r Brwnt a’r Baw’; Aled Evans – ‘Y Llais’ (Mentor: Griff Lynch)