Demis Roussos gyda'i wraig Dominque yn 1977
Mae’r canwr enwog o Wlad Groeg, Demis Roussos, a oedd yn enw cyfarwydd yn y 1970au a’r 1980au,wedi marw yn Athen yn 68 mlwydd oed.

Dywedodd yr ysbyty ble’r oedd y canwr yn cael gofal, ei fod wedi marw ar ôl cyfnod hir o driniaeth.

Fe’i ganed yn Alexandria, yn yr Aifft, yn 1946, a daeth i amlygrwydd gyntaf yn y 1960au hwyr gyda’r band Aphrodite’s Child cyn symud ymlaen a chael gyrfa lwyddiannus ar ei ben ei hun.

Mae’n enwog am ganu caneuon poblogaidd fel ‘Forever and Ever’, ‘My Friend The Wind’, Velvet Mornings’, ‘Someday Somewhere’, a ‘Lovely Lady Of Arcadia’.

Yn 1985, roedd Demis Roussos ymhlith 153 o bobl a gafodd eu cymryd yn wystlon pan wnaeth dau frawychwr Mwslimaidd herwgipio awyren Boeing DTG 727 wrth iddi hedfan o Athen i Rufain.

Er iddo dreuliodd ei ben blwydd yn 39 oed ar yr awyren, cafodd ei ryddhau yn ddianaf bum diwrnod yn ddiweddarach, a diolchodd y brawychwyr am roi cacen ben-blwydd iddo.

Roedd yn byw yn Los Angeles, Paris, Monte Carlo, Llundain ac Athen.