Edwina Hart
Mae cwmni teledu Americanaidd wedi dewis ffilmio eu cynhyrchiad diweddaraf yng Nghymru.
Ar ôl ystyried lleoliadau ledled Ewrop, penderfynodd y tîm sy’n cynhyrchu drama beilot The Bastard Executioner ar gyfer Fox 21 Television Studios, Imagine Television Fox ac FX Productions y bydden nhw’n ffilmio’r prosiect yn Ne Cymru, gan ddechrau ym mis Mawrth 2015.
Drama gyfnod yw The Bastard Executioner sy’n adrodd stori marchog rhyfelgar ym myddin y Brenin Edward II.
Cafodd y peilot ei lunio gan Kurt Sutter, sydd hefyd yn gyfrifol am ysgrifennu’r ddrama ac yn Gynhyrchydd Gweithredol, ac fe fydd yn cael ei gynhyrchu gan Paris Barclay – fu’n gweithio ar y gyfres Sons of Anarchy.
Manteision economaidd
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae disgwyl y bydd y cynhyrchiad yn dod â manteision economaidd sylweddol i Gymru yn ystod cyfnod y ffilmio ac yn ddiweddarach i’r diwydiant twristiaeth.
Bu Edwina Hart, Gweinidog yr Economi yn cwrdd â gwneuthurwyr y ffilm pan oedden nhw’n ymweld â lleoliadau posibl yng Nghymru. Dywedodd: “Mae nifer o raglenni llwyddiannus wedi’u ffilmio yma’n ddiweddar ac mae hyn yn ddilyniant i hynny.
“Mae’r ffaith bod cymaint o gwmnïau cynhyrchu wedi dewis Cymru yn dangos bod gennym dirwedd odidog, asedau hanesyddol arbennig, a gweithlu ffyddlon sydd â sgiliau da iawn.