Howard Marks
Mae’r smyglwr cyffuriau a’r awdur o Gymru, Howard Marks wedi cyhoeddi dros y penwythnos bod ganddo ganser nad yw’n bosib ei drin.

Dywedodd Marks, 69 oed, sy’n dod yn wreiddiol o Fynydd Cynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr, nad oedd yn edifar am yr hyn a wnaeth yn ei fywyd, gan gynnwys treulio saith mlynedd yn y carchar am smyglo cyffuriau.

Mae Marks, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Mr Nice, wedi dweud wrth yr Observer bod ganddo ganser y coluddyn.

Dywedodd: “Rydw i wedi dod i delerau gyda hyn yn fy ffordd fy hun – i fi, roedd o am ddysgu sut i grio.

“Mae’n amhosib i fi edifar am unrhyw ran o fy mywyd pan dwi’n teimlo’n hapus a dwi yn hapus rŵan.”

Fe raddiodd ym Mhrifysgol Rhydychen a bu’n gweithio’n ddiweddarach i’r Gwasanaeth Cudd Prydeinig. Mae hefyd wedi cael ei gysylltu â’r Maffia, yr IRA, MI6 a’r CIA.

Cafodd ei ddal yn 1988 gan yr awdurdodau yn America a’i ddedfrydu i 25 mlynedd dan glo yng ngharchar Terre Haute yn Indiana.

Ar ôl treulio saith mlynedd yn y carchar cafodd ei ryddhau ar barôl yn 1995 ac ers hynny mae wedi ymgyrchu i gyfreithloni canabis.

Bu’r actor Rhys Ifans yn chwarae Marks mewn ffilm am ei fywyd, a oedd yn seiliedig ar ei lyfr ‘Mr Nice.’

Mae disgwyl i Marks berfformio i gynulleidfa yn The Forum yn Llundain fis nesaf, gydag ymddangosiad gan Rhys Ifans a’r grwp Super Furry Animals.