Mae’r ddwy ochr yn y ddadl tros faint o daliadau y dylai cerddorion eu derbyn bob tro y mae caneuon yn cael eu chwarae ar Radio Cymru, wedi arwyddo cytundeb.
Roedd y BBC a’r mudiad Eos, sy’n cynrychioli cyfansoddwyr a pherfformwyr caneuon Cymraeg, wedi bod i dribiwnlys dros y mater ym Medi 2013.
Fe benderfynodd barnwr y dylai’r BBC dalu breindal o £100,000 bob blwyddyn am yr hawl i ddarlledu miloedd o ganeuon Cymraeg, er bod Eos wedi gofyn am £1.5m.
Eos sy’n gwarchod hawliau darlledu miloedd o ganeuon Cymraeg gan gantorion fel Dafydd Iwan, Geraint Lovgreen, Bryn Fon, Gai Toms, Yr Ods ac Elin Fflur.