Lydia Ellis
Lydia Ellis, myfyrwraig yng Nghaerdydd sydd yn wreiddiol o Gricieth, sydd yn rhoi ei hymateb i’r drafodaeth danllyd gychwynodd hi ar Facebook am gulni rhai carfan o siaradwyr Cymraeg …
Mi ‘sgwennais i bwt ar Facebook y diwrnod o’r blaen, ac mi ges i gryn dipyn o ymateb.
Bwriad y testun oedd bwrw mol, ar ôl sylweddoli ein bod ni fel Cymry yn gwneud cam â ni’n hunain.
Ydw, dw i’n meddwl ein bod ni’n gwneud cam â ni’n hunain, a tydan ni ddim yn debygol o fagu cymdeithas iach ac eangfrydig os nag ydan ni’n newid ein agweddau.
Dw i’n falch o fod wedi gwneud ffrindiau newydd ar ôl cychwyn astudio Saesneg a Newyddiaduraeth yn y coleg yng Nghaerdydd. Ond o fewn dim o amser wedi symud i’r brifddinas, mi synhwyrais fod sawl Cymro di-Gymraeg yn teimlo fel estron yn ei wlad ei hun.
Cymdeithas fewnblyg?
Mae hyn yn fy nigalonni. Fel Cymraes falch mae hi’n bechod gen i eu bod nhw’n teimlo fel hyn, a ninnau yn genedl sy’n gyfoethog o ran ein hanes, cerdd, llenyddiaeth a’n syml, ein ffordd Gymreig o fyw.
Mae gennym ni gymdeithas Gymraeg sydd fel caer yn amddiffyn yr iaith a’r genedl, ac mae hynny’n rhywbeth i’w ganmol.
Ond oes yna fynediad iddi i bawb? Ydan ni’n hytrach yn dewis bod dan warchae, yn amddiffyn ein hunaniaeth ers canrifoedd dan gyfyngiad muriau hanes?
A thra ryda ni ar y tu fewn yn canu ‘Ry’ ni yma o hyd’ rownd y tân, mae yna ddieithriaid yn cnocio a chnocio ar y mur … ond ‘da ni ddim yn eu clywed, ac maen nhw’n troi a cherdded i ffwrdd.
Pam bod ni’n chwilio am rwystr o hyd i’w osod rhyngom ni a’r Cymry sy’n methu neu’n dewis peidio siarad yr iaith? Oes yna ddyfodol i genedl sy’n dewis a dethol pwy sy’n cael ymuno efo ni, cyn belled â’u bod yn llenwi’r termau ac amodau ac yn cytuno efo’n syniad ni o genedlaetholdeb?
Dw i eisiau gallu dathlu fy nghenedlaetholdeb – ond dw i ddim eisiau gwisgo label chwaith, a dw i ddim eisiau i neb byth gymryd yn ganiataol mod i’n cytuno efo’u syniadaeth nhw.
Fel un sy’n mawr obeithio ymgartrefu yng Nghymru, mae gen i broblem efo cael fy stereoteipio. Tu fewn a thu hwnt i’r gymdeithas, mae pobol yn tybio ac yn cymryd yn ganiataol ein bod ni gyd yn rhannu’r un farn. Dw i eisiau byw mewn cymdeithas gynhwysol plîs, sy’n barchus ac yn oddefgar.
Y drafodaeth Facebook
Diolch byth, mae’r neges ar Facebook wedi dangos fod yna lawer o Gymry gwladgarol o’n amgylch i, ond yn ddiddorol mi oedd mwyafrif yn ‘hoffi’ sylwadau oedd yn cytuno ac yn anghytuno gyda fi.
Ydi hyn yn profi ein bod ni’r Cymry yn adnabod ein gwendidau ein hunain? Ai ni ydi’r drwg yn y caws sy’n dychryn rheiny sy’n methu siarad iaith loyw cystal â’r cyfryngis a’r academyddion rhag cymryd rôl fwy blaenllaw wrth lywio ein cenedl?
Mae’n wych i fod yn falch, ond gall fod yna dueddiad i Gymry feddwl mai dim ond un ffordd sydd yna o’n cynnal ni fel cenedl, a hynny trwy ein hiaith. Mae yna linell denau iawn rhwng balchder ac anoddefgarwch. Gormod o bwdin dagith gi.
Mae yna ddwy ochr i bob stori, a dw i’n siŵr fod pob un person Cymraeg wedi dod ar draws Cymry sy’n gwrthod ceisio siarad yr iaith, neu’n gwrthod eu hunaniaeth fel ‘Cymry’ ac yn hytrach yn ochri efo’r syniad o ‘British’.
Mae hyn yn dibynnu ar yr unigolyn, ond mae’n rhaid i ni geisio rhannu ein balchder efo Cymry di-Gymraeg.
Mae’n drist meddwl efallai nad oes gan bob Cymro reswm i fod yn falch, am nad ydynt yn teimlo eu bod yn perthyn, a hynny am nad ydyn nhw’n rhannu agwedd ymosodol ac eithafol rhai pobol.
Agor y drysau
Os mai purdeb iaith sy’n cynrychioli Cymreictod, dw i’n meddwl fod hynny’n farn gul iawn. Dydi o ddim yn dderbyniol fod yna Gymry yn teimlo fel ffoaduriaid yn eu gwlad eu hunain, a ni’r gymdeithas Gymraeg sydd â’r grym i newid hynny.
Bwriad fy neges Facebook oedd tynnu sylw at farn sy’n cuddio tu ôl i’r llenni, ac i annog ni’r gymdeithas Gymraeg i geisio bod yn gyfeillgar, ac i agor cil y drws rywfaint o leia’ ar furiau’r gaer.
Mae yna le i bawb tu fewn, a dylai neb deimlo nad ydyn nhw’n perthyn. Mae darllen gwahanol safbwyntiau’r sawl sydd wedi ymateb yn dangos pa mor liwgar ydan ni fel Cymry, ac yn arwydd o’r tân sydd yn ein boliau.
Mi ddylan ni fod yn dathlu unrhyw esgus i drafod ein cenedl, ein iaith a’n treftadaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg, efo pawb, nid ymysg ein gilydd yn unig.