Tregaron
Mae un o frodyr Nantllwyd, John Thomas Jones, wedi marw yn 86 oed.
Roedd yn enwog am fod yn un o chwech o frodyr a dwy chwaer gafodd eu geni a’u magu ar fferm fynydd Nantllwyd, tua 12 milltir y tu allan i Dregaron, gan ffermio ar gefn ceffylau a chynnal yr hen draddodiadau.
O glywed am ei farwolaeth, fe ddywedodd ei ffrind Lyn Ebenezer fod “talp o hanes mynydd Tregaron wedi diflannu dros nos”.
Trip i America
Roedd John Nantllwyd yn “gymeriad mawr” meddai Lyn Ebenezer wrth gofio amdano:
“Trip i America sy’n dod i’r cof, i gystadleuaeth pennau moel y byd 1991. Fe gafodd John ddwy wobr gyntaf, ac un ohonyn nhw oedd y pen moel fwyaf cusanadwy – dyna pryd ddes i i’w adnabod o’n dda.
“Roedd o’n gymeriad, yn gymeriad mawr iawn. Roedd pawb arall yn edrych i fyny ar y skyscrapers, ond edrych am le i gael peint oedd John.
“Fe alle fo sgwrsio mewn unrhyw gwmni – o gardotyn i Arlywydd America. Ac mi wnaeth o gwrdd â Jimmy Carter pan ddaeth o draw’r ffordd hyn.
“Y tristwch yw bod talp o hanes mynydd Tregaron wedi diflannu dros nos, fe wrthododd yn lân a chofnodi ei hanes. Er ei fod o’n ddyn cyhoeddus, roedd elfen breifat iawn i’w fywyd hefyd.”
Part o’r mynydd
Ar ôl blynyddoedd o waith caled, fe symudodd John Nantllwyd a’i frawd Dafydd o’r fferm i fyw yn Nhregaron ddwy flynedd yn ôl, gan adael i’w nai gymryd y fferm drosodd.
“Mae hi’n anodd meddwl am John heb feddwl am y mynydd a fydd Soar y Mynydd ddim yr un peth hebddo. Mae hi’n ddiwedd cyfnod dw i’n ofan,” ychwanegodd Lyn Ebenezer.
“Roedd o’n rhan o chwedloniaeth cefn gwlad pan oeddwn i’n ifanc – dw i’n cofio gweld y brodyr yn dod i lawr ar eu ceffylau, roedd o fel ffilm gowboi.
“Roedd o’n bart o’r mynydd.”