James a Patrick Connors
Mae’r heddlu yn gofyn am wybodaeth ynghylch lleoliad James Connors a Patrick Connors ac yn awyddus i holi’r ddau ynghylch ymosodiad difrifol yn Carnarvon Way, Trowbridge yn nwyrain Caerdydd am un o’r gloch ar brynhawn Iau, y 15fed o Ionawr.

Daw James Dean Connors, 18 oed, o Carnarvon Way ac mae Patrick Connors o Nevin Crescent, Tredelerch.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y dynion hyn i gysylltu gyda Heddlu’r De drwy ffonio 101 neu yn anhysbys drwy Taclo’r Taclau ar 0800 555111 ac adrodd y cyfeirif 1500016736.