Heddiw fe fydd panel yn ystyried gwneud i bobol sy’n byw yng Ngwent dalu bron i 4% yn fwy am blismona’r ardal.
Petai’n cael ei gymeradwyo, fe fyddai’r cynnydd yn dilyn esiampl Panel Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru sydd eisoes wedi cytuno ar gynnydd o 3.44% yng nghyfran yr heddlu o dreth cyngor. Mae hynny’n cyfateb i 17c yr wythnos neu £ 7.83 y flwyddyn ar gyfer tŷ Band D.
Gostyngiad i drigolion y Canolbarth
Ar y pryd heddiw fe fydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn ystyried tocio 5% oddi ar gyfran yr heddlu o dreth cyngor. Mae’r 5% yn cyfateb i £10 ar gyfer preswylwyr mewn tai gwerth tua £91,000 i £123,000.
Yn ardal De Cymru mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi cael cais i gyhoeddi manylion eu bwriad o ran gosod y dreth.
Ar ôl i Banel Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru gyhoeddi’r cynnydd yn y dreth yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd y Comisiynydd Winston Roddick: “Ar amser lle mae cyllidebau yn dynn mae cynghreiriau strategol fel hyn yn gwneud llawer iawn o synnwyr.”