Golygfa o'r fideo bygythiol
Mae mam un o’r ddau wystl o Japan sydd mewn peryg o gael eu lladd gan fudiad IS wedi gwneud apêl emosiynol am ei ryddid.

Fe ddaeth hynny ar ôl i’r terfyn amser ddod i ben i Japan dalu £132 miliwn i achub y ddau.

Mae’r mudiad milwrol Islamaidd wedi dweud y bydden nhw’n lladd y ddau os na fyddai’r arian y cyrraedd.

Fe ddywedodd Junko Ishido nad oedd ei mab, y newyddiadurwr Kenji Goto, yn elyn i IS a bod ei fabi newydd anedig ei angen yn ôl gartref.

Fideo

Does dim manylion wedi’u cyhoeddi am yr ymgyrch gan Japan i ryddhau’r ddau wystl ond mae llefarydd o lywodraeth y wlad wedi dweud eu bod yn ceisio gwneud popeth o fewn eu gallu i ryddhau Kenji Goto, 47, a Haruna Yukawa, 42.

Cafodd fideo ei gyhoeddi ddydd Mawrth yn dangos dyn gyda mwgwd o fudiad IS yn dweud bod Japan yn cael ei thargedu am gefnogi ymdrechion milwrol y Gorllewin yn erbyn y grŵp.

Fe ddywedodd y cwmni darlledu NHK yn Japan bod adroddiadau wedi’u derbyn yn dweud y byddai IS yn cyhoeddi datganiad yn y man.