Fe all milwr o Gaerffili fod wedi marw am ei fod yn poeni y gallai ei yrfa gyda’r fyddin ddod i ben, clywodd cwest.
Roedd Richard Jones, 23, wedi cymryd Hemo-Rage, sef sylwedd oedd yn ei ganiatáu i ymarfer yn y gampfa yn hirach, clywodd y cwest.
Roedd wedi bod yn defnyddio’r cynnyrch a brynodd dros y we ar sawl achlysur, cyn sylweddoli ei fod yn sylwedd gwaharddedig gan y fyddin.
Clywodd Llys Crwner Wiltshire a Swindon bod Richard Jones wedi dioddef o bryder sylweddol a pharanoia am ei fod yn poeni y byddai swyddogion yn cynnal profion arno ac yn darganfod ei fod wedi cymryd y sylwedd.
Yn gynharach yr wythnos hon, fe glywodd y cwest fod Richard Jones wedi cael ei ddarganfod yn farw ddyddiau ar ôl dweud wrth ei wraig, Jodie Jones, ei fod wedi cael perthynas gyda dyn yn ystod eu dyweddïad.
Cafodd ei ddarganfod gan ei gyd-weithwyr yn ei fflat yn Larkhill, Wiltshire ynghyd a nodyn oedd yn dweud: “Rwyt ti’n haeddu gwell.”
Cafodd y cwest ei ohorio.