Y tan mewn swyddfa cyngor yn Sir Rhydychen
Mae dyn 47 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o losgi bwriadol, mewn cysylltiad â thri thân mawr mewn swyddfa cyngor, canolfan angladdau a thŷ to gwellt.
Mae Heddlu Sir Rhydychen yn credu bod cerbyd wedi gwrthdaro hefo adeilad Swyddfeydd Cyngor De Sir Rhydychen cyn i’r tân ddechrau yn oriau man y bore.
Ar un adeg, roedd 27 o griwiau tân yn ceisio rheoli’r fflamau ac mae’r gwasanaethau brys yn credu fod y tri thân wedi cael eu cynnau 10 munud ar wahân i’w gilydd, am tua 3 o’r gloch y bore yma.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu ac nid oes cadarnhad o’r difrod sydd wedi ei achosi i’r adeiladau ar hyn o bryd.
Mae ymchwiliad ar droed i geisio darganfod os yw’r tannau yn gysylltiedig ac mae’r heddlu yn gofyn i drigolion lleol gadw draw o’r safleoedd.