Ffion Hague
Cadarnhawyd fod cyn-ysgrifennydd Cymru William Hague a’i wraig, Ffion yn symud i Neuadd Cyfronydd ger Llanfair Caereinion yn Sir Drefaldwyn, gyda’r bwriad o sefydlu cartref teuluol yn yr ardal.
Roedd yr ystâd ar y farchnad am bris o £2.5 miliwn. Mae’r neuadd, sydd bellach wedi’i hadnewyddu, yn cynnwys 10 ystafell wely, 10 ystafell ymolchi a 12.7 acer o dir.
Adeiladwyd yr adeilad presennol ym 1865, ond bu’r neuadd yn gartref ysbrydol i deulu’r Pryce tan 1927. Roedd y teulu yn ymfalchïo yn ei chysylltiad â thywysogion Powys.
Croesawodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol lleol, Glyn Davies y cyhoeddiad: “Rwy’n falch fod William a Ffion wedi penderfynu sefydlu eu cartref teuluol yn Sir Drefaldwyn. Roedd tad Ffion yn dod o Sir Drefaldwyn ac mae ganddi wreiddiau teuluol yma, ac mae William yn boblogaidd yng Nghymru.”
“Mae Neuadd Cyfronydd yn agos i le dwi’n byw, ac mae’n lleoliad adnabyddus yn lleol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Neuadd wedi cael ei hadnewyddu’n brydferth ac mae’n newyddion gwych i’r ardal ei bod bellach yn gartref i William a Ffion Hague. Credaf y byddant yn teimlo’n gartrefol yn ein hen sir.”