Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i holi dyn gafodd ei arestio ddoe ar amheuaeth o geisio llofruddio dyn mewn archfarchnad Tesco yn yr Wyddgrug.

Cafodd dyn ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad prynhawn dydd Mercher, ac fe ddywedodd yr heddlu eu bod yn credu fod cymhelliad hiliol i’r ymosodiad.

Mae’r heddlu wedi disgrifio ei anafiadau fel rhai a fydd ny newid ei fywyd.

Mae’r archfarchnad a’r ffyrdd cyfagos bellach wedi ailagor, ar ôl bod ar gau drwy gydol y dydd ddoe wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad a holi pobl oedd wedi bod yn y siop yn ystod y digwyddiad.

Anafiadau difrifol

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad am 1.40yp ddydd Mercher, pan gafodd dyn 24 oed o Swydd Efrog ei drywanu gan ddyn lleol 25 oed sydd bellach wedi cael ei arestio.

Yn ôl llygad dystion oedd yn yr archfarchnad ar y pryd roedd y dioddefwr o dras Asiaidd, ac fe glywyd yr ymosodwr yn gweiddi slogan “white power”.

Dywedodd y llygad dystion iddyn nhw weld yr ymosodwr yn rhedeg ar ôl y dyn o gwmpas y siop yn gweiddi a dal cyllell.

Cafodd y dyn a gafodd ei drywanu ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol, ond fe ddywedodd yr heddlu nad oedden nhw’n credu y byddai’r anafiadau yn peryglu ei fywyd.

Wrth ymateb i’r ymosodiad ar Twitter ddoe fe ddywedodd Aelod Seneddol Delyn David Hanson, sydd yn cynrychioli tref Yr Wyddgrug: “Newyddion am ymosodiad ofnadwy yn Tesco Wyddgrug – meddwl am y dioddefwr – ymosodiad & cymhelliad honedig wir yn erchyll – wedi siarad â’r heddlu”.

‘Ymosodiad hiliol’

Fe gadarnhaodd yr heddlu eu bod nhw bellach yn ystyried yr ymosodiad yn un hiliol, a’u bod am sicrhau nad oedd y digwyddiad yn creu tensiynau cymunedol.

“Am 1.40pm brynhawn ddoe roedd dyn 24 oed yn siopa yn yr archfarchnad pan wnaeth dyn arall ymosod arno,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Alun Oldfield sydd yn arwain yr ymchwiliad.

“O ganlyniad i hyn cafodd y dyn anafiadau difrifol ond nid rhai sy’n bygwth bywyd ac aethpwyd ag ef i ysbyty lleol.

“Credir bod hwn yn ymosodiad hiliol ac fel rhan o’r ymchwiliad byddwn yn ceisio rheoli effaith hyn ar y gymuned er mwyn ceisio tawelu meddwl y cyhoedd.

“Rwy’n deall bod storïau wedi bod yn ymddangos ar wefannau cyfryngau cymdeithasol ond ni fydd hyn yn ein helpu ni gyda’n hymchwiliad ac mae’n achosi trallod i deulu a ffrindiau’r dioddefwr. Felly hoffwn i’r cyhoedd fod yn ystyriol tra bydd ymchwilwyr yn siarad â thystion er mwyn canfod amgylchiadau llawn y digwyddiad hwn.”

“Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymdrin â’r mater fel ymgais i lofruddio ac os oeddech yn dyst i’r ymosodiad hwn yna gofynnir i chi ffonio’r Heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111 a dyfynnu’r cyfeirnod S006316.”