Fe fydd Gwasanaeth Iechyd Cymru yn cael £40miliwn yn rhagor i ddelio hefo’r pwysau ychwanegol a welwyd dros y gaeaf, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt heddiw.
Mae’n dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd dros £200m ychwanegol yn cael ei roi i’r GIG yn 2014-15.
Roedd adrannau brys ledled y wlad o dan bwysau sylweddol dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn newydd yn sgil galw cynyddol gan lif o gleifion sâl, yn ôl y Llywodraeth.
Mae’r £40m ychwanegol ar gyfer Cymru gyfan yn cyfateb â’r £700m sydd wedi cael ei roi i GIG Lloegr i’w helpu gyda phwysau’r gaeaf.
‘Ansawdd uchel’
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, y bydd yr arian ychwanegol yn golygu bod y GIG yn medru “darparu gwasanaethau iechyd cynaliadwy o ansawdd uchel.”
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford:
“Mae’r gaeaf yn gyfnod prysur iawn i’n gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a’n gwasanaethau cymdeithasol – ond mae gwasanaethau gofal brys yng Nghymru, yn arbennig, wedi gweld galw sylweddol ychwanegol.
“Hoffwn ddiolch i’r holl staff sy’n gweithio’n ddiflino, yn aml mewn sefyllfaoedd anodd, i sicrhau bod y rheini sydd angen gofal brys yn derbyn triniaeth a gwasanaethau o’r ansawdd uchaf.”
‘Rhy ychydig, rhy hwyr’
Mae’r cyllid ychwanegol wedi cael ei feirniadu fel “gweithred o banig” gan y Ceidwadwyr Cymreig.
Dywedodd llefarydd y blaid ar iechyd, Darren Millar: “Mae hyn yn dod wedi i ambiwlansys orfod ciwio y tu allan i ysbytai ac ar ôl i nyrs o Gaerdydd ddweud bod ei swydd hi’n waeth na gweithio ar y rheng flaen yn Irac.
“Fe wnaeth Llywodraeth Prydain gyhoeddi arian i Loegr fisoedd yn ôl, fel eu bod nhw’n medru cynllunio ar gyfer y gaeaf.
“Ond mae hwn yn gyhoeddiad munud olaf gan Lafur Cymru ynghanol y cyfnod prysuraf – mae’n rhy ychydig, rhy hwyr.”