Mae BP wedi cyhoeddi ei fod yn disgwyl cael gwared a 200 o swyddi a 100 o swyddi contractwyr fel rhan o’i gynlluniau ail-strwythuro.
Mae’r cwmni olew wedi bod yn trafod y diswyddiadau gyda staff yn Aberdeen heddiw.
Roedd y cwmni wedi cyhoeddi cynlluniau ail-strwythuro fis diwethaf yn dilyn y gostyngiad ym mhrisiau olew.
Mae tua 15,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan BP yn y DU, tra bod y cwmni’n cyflogi 84,000 o weithwyr yn fyd-eang.
Mae disgwyl y bydd y diswyddiadau yn rai ar y tir ac nid ar eu safleoedd ym Mor y Gogledd.
Daw’r cynlluniau i symleiddio’r busnes wrth i bris olew ostwng tua 40% yn is na’r lefel yn gynharach y llynedd.
Mae Llywodraethwr Banc Lloegr Mark Carney wedi rhybuddio y gall yr Alban ddioddef yn sgil y gostyngiad ym mhris olew ac mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi sefydlu tasglu i geisio helpu gweithwyr yn y sector olew.
Fe fydd yr Ysgrifennydd Ynni Ed Davey yn cwrdd â swyddogion o’r diwydiant olew a nwy yn yr Alban yn ddiweddarach heddiw.