Bydd cyfle i rai o fyfyrwyr chweched dosbarth a myfyrwyr colegau mwyaf disglair Cymru i gael cymorth i fynychu prifysgolion gorau’r Deyrnas Unedig, yn sgil menter newydd sy’n cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw.
Datblygwyd rhaglen Seren yn dilyn yr adolygiad ynghylch nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n mynd i brifysgolion Rydychen a Chaergrawnt, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2012.
Roedd yr adolygiad yn ystyried pam bod myfyrwyr o Gymru yn llai llwyddiannus na’u cyfoedion yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon, o ran cael eu derbyn i brifysgolion gorau’r DU, a chanfu mai diffyg hunangred a hunanhyder academaidd oedd rhan o’r broblem.
Yn unol ag argymhellion yr adolygiad hwnnw, mae Llywodraeth Cymru bellach yn sefydlu tri rhwydwaith peilot mewn gwahanol ardaloedd a fydd yn caniatáu i rai o fyfyrwyr mwyaf talentog a galluog Cymru ddod at ei gilydd i gael eu cefnogi a’u mentora.
‘Hyder’
Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg fod angen gwell cefnogaeth ar gyfer y disgyblion mwyaf talentog.
“Mae ein hadolygiad diweddar o’r berthynas a Rhydychen a Chaergrawnt yn cadarnhau bod yn rhaid darparu gwell cyngor, cyfarwyddyd a chefnogaeth ar gyfer ein dysgwyr mwyaf talentog a galluog, os ydyn nhw i gyflawni eu potensial a chael lle yn rhai o brifysgolion gorau’r DU.
“Fe ddywedodd yr adolygiad wrthon ni hefyd fod angen i’n dysgwyr fod yn fwy hyderus a datblygu eu chwilfrydedd deallusol, ac mai’r ffordd orau o’u helpu i wneud hyn yw eu cyflwyno i grŵp o gyfoedion sy’n debyg iddyn nhw.”
Ychwanegodd: “Y syniad y tu ôl i’r rhwydweithiau yw eu bod nhw’n cael gwared â’r elfen o siawns ac yn caniatáu i’n disgyblion mwyaf talentog yn academaidd ddatblygu eu sgiliau, eu hyder a’u deallusrwydd mewn amgylchedd pwrpasol.”
‘Gwella safonau’
Mae Angela Burns, llefarydd addysg y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi croesawu’r cynllun newydd ond mynnodd fod angen cefnogaeth hirdymor i wella safonau.
“Er ein bod yn croesawu ymdrechion gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ein myfyrwyr disgleiriaf i fynychu’r prifysgolion gorau yn y Deyrnas Unedig a thramor, credwn nad oes yna gynllun amgen tymor hir i ddarparu cefnogaeth i ysgolion i wella safonau.”