Yn dilyn noson stormus o wyntoedd cryfion a glaw trwm ar hyd a lled Cymru, mae cwmni Western Power wedi dweud bod mwy na 750 o gartrefi yn y de heb gyflenwad trydan.
Mae’r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi fod gwyntoedd yn hyrddio dros 96 milltir yr awr wedi eu cofnodi yng Nghapel Curig dros nos, gyda gwyntoedd o 83 milltir yr awr yn Aberdaron, a 81 milltir yr awr yn y Mwmbwls ger Abertawe.
Ni fydd gwasanaethau trenau rhwng Blaenau Ffestiniog a Llanrwst yn rhedeg tan y prynhawn ma oherwydd llifogydd, meddai Trenau Arriva Cymru, gyda bysiau yn parhau i redeg yn lle trenau rhwng y ddwy dref.
Mae yna gyfyngiadau cyflymder ar ddwy bont Hafren oherwydd gwyntoedd cryfion.
Cafodd pum rhybudd llifogydd eu cyhoeddi ar yr Afon Wysg yn y Canolbarth ac Afon Gwili yn y de Orllewin, gyda rhybuddion i’r cyhoedd baratoi am lifogydd ar y 28 o afonydd ledled Cymru.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi y bydd Pont Britannia, sy’n cysylltu Ynys Môn a’r tir mawr yn cau i gerbydau uchel o 3pm ymlaen.
Mae’r A4069 ger Hufenfa Llangadog yn parhau ar gau yn dilyn llifogydd difrifol. Dywedodd Cyngor Caerfyrddin y bydd yn ail-agor ar ôl i’r llif ostegu.
Mae lorïau graean wedi bod gwasgaru halen ar ffyrdd yn y Mynyddoedd Du a’r ffordd rhwng Pumsaint a Llanbed gyda phosibilrwydd o eira ar dir uchel.
De Orllewin Cymru oedd un o’r ardaloedd a ddioddefodd waethaf o’r tywydd garw dros nos, gyda lluoedd o weithwyr Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cael eu galw wedi i goed a gwifrau trydan ddymchwel yn y gwyntoedd garw.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, bydd y rhybudd melyn yn parhau i Ogledd a de Orllewin Cymru wrth i’r tywydd gwyntog barhau tan 8 heno, gyda disgwyl i’r gwyntoedd cryfion gyrraedd 70 milltir yr awr mewn mannau.
Bydd disgwyl i’r gwynt ostegu dros nos. Mae’r Swyddfa Dywydd yn gofyn i’r cyhoedd fod yn wyliadwrus, gyda’r peryg i’r tywydd garw effeithio ar gyflenwadau trydan a chludiant.