Mae sylwebydd rygbi S4C yn credu y dylai Cymru ddangos mwy o uchelgais yng ngemau’r Hydref

Mae’r tymor caled o rygbi rhyngwladol yn dechrau fory.

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gobeithio y gall Cymru fwynhau o leiaf un fuddugoliaeth yn erbyn un o gewri rygbi Hemisffer y De cyn Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf.

Byddai dwy fuddugoliaeth mas o bedair yn dderbyniol.

Ond tybed a fyddai cefnogwyr Seland Newydd neu Dde Affrica yn derbyn y mesur hwn o lwyddiant? Dwi’n amau’n fawr.

Mae cefnogwyr Lloegr yn disgwyl mwy na dwy fuddugoliaeth wrth iddyn nhw baratoi i wynebu’r tri thîm mawr a Samoa ym mis Tachwedd ac edrych ymlaen at groesawu Cwpan y Byd i’w tomen eu hunain flwyddyn nesaf.

Mae Warren Gatland wedi sôn lawer gwaith bod angen i ni newid ein meddylfryd yng Nghymru. Os ydym yn anelu’n isel, does dim syndod ein bod yn methu.

Rydym yn aml yn cyhuddo Lloegr o fod yn orhyderus, ond o leiaf maen nhw’n dangos uchelgais.

Mae Awstralia yn cael eu hystyried fel y gwannaf o’r gwledydd mawr ond maen nhw’n well nag y mae llawer yn eu tybio.

Mae eu blaenwyr yn gryfach nag yr ydym yn eu tybio ond yn bwysicaf oll mae ganddynt arddull chwarae a all ymdopi â gwrthwynebwyr corfforol fel Cymru.

I guro Awstralia, bydd angen i Gymru wrthymosod mwy.

Bygythiadau Cymru

Yn ffodus, mae Liam Williams nawr ar yr asgell i Gymru ac mae’n chwaraewr sy’n gallu cicio’n dda o safle amddiffynnol.

Nodwedd arall ar chwarae Williams yw ei fod yn gyson yn y gêm.

Mae symud George North i’r canol yn sicrhau bod un o redwyr gorau Cymru yn y gêm yn fwy aml.

Bydd ei brofiad cyfyngedig yn y safle yma’n golygu y bydd Awstralia yn ei dargedu.

Dydw i ddim yn siŵr iawn beth i’w ddisgwyl fory. Rwy’n meddwl bod Awstralia yn well nag yr ydym yn ei feddwl a byddan nhw’n elwa o gael hyfforddwr newydd â syniadau ffresh.

Rwy’n credu y bydd Cymru yn beryglus.

Byddai’n synnu’n fawr os nad yw’n gêm agos iawn ac felly dwi am ddangos ffydd a phroffwydo buddugoliaeth i Gymru.

Yna, bydd yna dair gêm ar ôl ac mae unrhyw beth yn bosibl.