Fe allai Abertawe godi nôl i’r pedwar uchaf yn yr Uwch Gynghrair petae nhw’n curo Arsenal yn Stadiwm Liberty brynhawn Sul.
Mae’r Elyrch wedi bod yn gystadleuol tu hwnt hyn yn hyn y tymor yma, ac maen nhw’n chweched yn y tabl ar hyn o bryd, dau bwynt y tu ôl i’r Gunners.
Petai nhw’n ennill yn erbyn Arsenal, a West Ham yn colli i Aston Villa, fe fyddai tîm Garry Monk yn neidio i’r pedwerydd safle wrth i’r gynghrair gymryd saib yn ystod yr wythnos ryngwladol.
Fe fydd yn rhaid i Abertawe geisio gwneud hynny heb eu chwaraewr canol cae Jonjo Shelvey, fodd bynnag, ar ôl iddo gael cerdyn coch yn y gêm ddi-sgôr yn erbyn Everton y penwythnos diwethaf.
Ni fydd Leon Britton, Jordi Amat, Dwight Tiendalli na Jazz Richards ar gael chwaith nes ar ôl y saib rhyngwladol oherwydd anafiadau.
Fe allai Tom Carroll, sydd ar fenthyg o Spurs, gamu i mewn i’r bwlch y mae Shelvey wedi’i adael yng nghanol cae.
Mae problemau anafiadau Arsenal yn clirio rhywfaint gyda Theo Walcott nawr nôl ar ôl anaf hir, ac fe allai Aaron Ramsey wynebu gelynion ei gyn-glwb Caerdydd.
Fodd bynnag fe fydd ymosodwr Abertawe Wilfried Bony’n gobeithio manteisio ar wendid amddiffynnol Arsenal, wedi iddyn nhw ildio tair gôl yn erbyn Anderlecht yng Nghynghrair y Pencampwyr nos Fercher.
Dyw’r amddiffynwyr Laurent Koscielny a Mathieu Debuchy, y chwaraewyr canol cae Mesut Ozil a Mikel Arteta, na’r ymosodwr Olivier Giroud ar gael i’r gwrthwynebwyr oherwydd anafiadau.