Fe fydd Caerdydd yn gobeithio codi i safleoedd y gemau ail gyfle gyda buddugoliaeth dros Birmingham yn y Bencampwriaeth y penwythnos hwn.
Mae’r Adar Gleision yn 12fed yn y tabl ar hyn o bryd ar ôl colli 3-0 i Bolton yng nghanol yr wythnos, ond mae eu gwrthwynebwyr yn 22ain ac yn y safleoedd cwympo ar ôl dechrau sâl i’w tymor.
Ni fydd Kenwyne Jones ar gael i Gaerdydd prynhawn yfory yn St Andrews, ar ôl i’r ymosodwr hedfan nôl i Trinidad yn dilyn llofruddiaeth ei gefndryd.
Cafodd Jones ganiatâd i adael y garfan yr wythnos hon ar ôl i ddau o’i gefndryd gael eu saethu’n farw, a’i ewythr dal mewn cyflwr difrifol.
Dyw’r chwaraewr canol cae Kagisho Dikgacoi ddim ar gael chwaith i Russell Slade yn dilyn anaf i’w ben-glin, ond mae disgwyl i’r asgellwr Anthony Pilkington fod yn holliach.
Mae disgwyl i David Cotterill, a gadwodd ei le yng ngharfan Cymru’r wythnos hon, ddechrau dros Birmingham unwaith eto.
Ond er bod Caerdydd yn uwch na Birmingham yn y tabl, allan nhw ddim bod yn rhy hyderus o fuddugoliaeth yfory yn erbyn gwrthwynebwyr sydd wedi troi cornel o dan y rheolwr newydd Gary Rowett.
Fe enillodd Birmingham eu hail gêm gartref o’r tymor yn erbyn Watford nos Fawrth, a dyw Caerdydd dal heb ennill gêm oddi cartref yn y gynghrair y tymor hwn.