Model o un o drenau cyflym HS2
Fe fyddai cynlluniau newydd i gael rheilffordd gyflym rhwng dinasoedd yng ngogledd Lloegr yn gwneud pethau’n waeth fyth i Gymru, meddai Aelod Seneddol.

Fe fyddai datblygu cyswllt High Speed Rail 3 (HS3) rhwng Leeds a Manceinion yn gadael trafnidiaeth Cymru yn y “lôn araf”, meddai Hywel Williams AS Arfon.

Mae’n ymddangos bod cefnogaeth wleidyddol i’r syniad ar gynnydd wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen ar HS2 – y cyswllt cyflym rhwng Llundain a chanolbarth a gogledd Lloegr.

‘Angen dybryd’

Mae Hywel Williams wedi ymgyrchu dros drydaneiddio prif lein gogledd Cymru gan alw am i Gymru gael arian yn sgil y gwario ar HS2, er mwyn buddsoddi mewn systemau trafnidiaeth gwell yng Nghymru.

Fe fyddai datblygu lein gyflym o Fanceinion i Leeds yn cael gwared ar unrhyw les honedig i Gymru o HS2, meddai.

“Mae angen dybryd am drydaneiddio rheilffyrdd Cymru ond mae llywodraeth y Deyrnas Unedig  yn gorfodi trethdalwyr Cymru i gyfrannu tuag at brosiect Lloegr-yn-unig sydd yn debyg o gostio rhwng £40-80 biliwn.”

Y cefndir

Mae Llywodraeth Prydain yn honni y bydd HS2 o fudd i wledydd Prydain i gyd ac, felly, does dim rhaid rhoi arian i Gymru a’r Alban i gyfateb i’r gwario arno.

Os byddan nhw’n gwneud yr un peth gyda HS3, fe ddylai Cymru dderbyn arian cyfatebol, meddai Hywel Williams.

“Os yw HS3 yn mynd ei flaen ac yn cael ei labelu’n brosiect ‘ledled y DU’ pan mae hi’n gwbl mai prosiect Lloegr-yn-unig ydi o, yna mae’n rhaid i Gymru dderbyn iawndal teg fel y gallwn ninnau hefyd fuddsoddi yn nhrafnidiaeth ein gwlad.”