Y gwleidydd Cyril Smith - ynghanol sgandal cam-drin
Mae grŵp seneddol o bob plaid yn dweud mai hap a damwain yw hi o ran ymateb yr heddlu i blant sy’n cael eu cam-drin yn rhywiol.
Mae gwasanaethau’n amrywio o le i le, meddai adroddiad gan Grŵp Aml-Blaid y Senedd ar Blant, sy’n cynnwys aelodau seneddol ac arglwyddi.
Fe ddangosodd ymchwiliad 18 mis ganddyn nhw nad yw llawer o blant yn ymddiried o gwbl yn yr heddlu.
Sgandalau
Hyn yn dod yn sgil sgandalau anferth am gam-drin plant yn rhywiol mewn dinasoedd yng ngogledd Lloegr.
Mae’r rheinyn cynnwys grwpiau o ddynion ifanc yn cymryd mantais o ferched ifanc neu achosion fel un y gwleidydd Cyril Smith yn Rochdale – roedd heddlu wedi anwybyddu rhybuddion a thystiolaeth yn yr achosion i gyd.
Ac mae adroddiad arall heddiw gan Arolygaeth yr Heddlu yn condemnio gwasanaethau Heddlu’r West Midlands yn y maes.
Mae hwnnw’n awgrymu bod ymateb swyddogion yn “annigonol” mewn 42% o achosion.
Diffyg parch
Ochr yn ochr ag esiamplau da, mae’r adroddiad yn dweud bod achosion o ddiffyg sylw a diffyg parch i’r plant gydag anghenion arbennig yn aml yn cael eu hanwybyddu neu eu gwneud yn waeth.
“Mae’r adroddiad yma yn agoriad llygad o ran y problemau sydd gyda ni i gael gwell perthynas a dealltwriaeth rhwng heddlu a phobol ifanc,” meddai’r AS Tim Loughton, un o Is-Gadeiryddion y Grŵp.
“Mae’n bwysicach nag erioed i ni gael ymddiriedaeth rhwng heddlu a dinasyddion ifanc bregus.”