Ty Gobaith (Llun o wefan yr hosbis)
Mae cleifion a theuluoedd yn dweud bod gofal diwedd bywyd yng Nghymru yn dda, meddai adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Yn ôl arolwg gan gwmni iWantGreatCare, roedd pobol yn rhoi sgôr ar gyfartaledd o 9.56 allan o 10 i wasanaethau arbenigol diwedd bywyd.

Mae’r canlyniadau wedi’u cynnwys yn adroddiad blynyddol gofal diwedd oes Llywodraeth Cymru – yr adroddiad cyntaf o’i fath i edrych yn gynhwysfawr ar y gwasanaeth yng Nghymru.

Fe  fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, heddiw – enghraifft arall o gyhoeddi newyddion da wrth i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ddod dan bwysau mawr gan Lywodraeth Prydain.

‘Gwneud gwahaniaeth enfawr’

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae 32,000 o bobol yn marw yng Nghymru bob blwyddyn ac mae tri chwarter yn cael rhyw fath o ofal i liniaru poen ar ddiwedd eu hoes.

“Mae adborth gan gleifion a’u teuluoedd am ofal diwedd bywyd arbenigol yng Nghymru wedi dangos bod y gwasanaethau hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobol,” meddai Mark Drakeford, cyn lansio’r adroddiad yn hosbis Tŷ Gobaith yng Nghonwy.

“Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn tynnu sylw at y cynnydd ar draws Cymru ac yn nodi meysydd i’w gwella yn y dyfodol. Mae hefyd yn dangos sut mae byrddau iechyd yn gweithio i wella diwedd oes ofal.”

Dal i wella

Mae’n bwysig fod y gwasanaeth yn parhau i wella, meddai Simon Jones, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus elusen ganser Marie Curie yng Nghymru.

“Mae’n hanfodol bod pawb ag anghenion gofal diwedd bywyd yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau hyn ac yn elwa ohonyn nhw,”

Yn ôl y Llywodraeth eu nod yw y dylai pobol sy’n marw yng Nghymru yn gallu derbyn gofal o ansawdd uchel, ble bynnag maen nhw’n byw ac yn marw, a beth bynnag yw eu clefyd neu anabledd.

Maen nhw’n dweud eu bod wedi buddsoddi mwy a mwy mewn gofal diwedd bywyd ers 2008, gyda mwy na £6.4m o gyllid yn mynd i ysbytai a hosbisau yng Nghymru yn ystod 2012-13.