Mae’r awdurdodau ynni’n dweud bod y peryg o doriadau trydan am fod yn uwch yn ystod y gaea’ nesa’.
Mae disgwyl i adroddiad newydd gan y Grid Cenedlaethol ddangos bod y ddarpariaeth drydan wrth gefn yn is nag ar unrhyw adeg ers wyth mlynedd.
Mae gwybodaeth am yr adroddiad wedi’i ollwng ymlaen llaw ac mae’n dangos mai dim ond 4.1% yw’r gwahaniaeth rhwng lefel ucha’ cynhyrchu trydan a’r galw ucha’.
Dyna’r lefel isa’ ers 2006-7, gyda’r bwlch yn debyg o fod yn llai fyth pe baen ni’n cael gaeaf anarferol o galed.
Trefniadau ychwanegol
Ond mae’r Grid yn dweud hefyd eu bod nhw’n gwneud trefniadau ychwanegol i gynyddu’r ddarpariaeth wrth gefn ac fe allen nhw hefyd fod yn talu i ddefnyddwyr mawr dorri’n ôl.
Mae arbenigwyr yn y maes yn dweud mai bach yw’r peryg gwirioneddol o doriadau trydan a blacowts.
Mae’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi’n swyddogol yn hwyrach y bore yma.