Darren Millar - 'angen gweithredu'
Mae gwasanaethau iechyd amgylchedd trwy Gymru mewn peryg o fethu, meddai’r Swyddfa Archwilio.

Fe allai hynny olygu eu bod yn methu â delio gydag achosion o glefydau fel e-coli, heb sôn am gyfrifoldebau newydd.

Mewn adroddiad arbennig, mae’r Swyddfa’n rhybuddio nad yw’r gwario yn y maes yn cael ei warchod.

Mae cyllidebau adrannau iechyd amgylchedd y cynghorau sir wedi cael eu torri o bron 5% ond, yn fwy arwyddocaol meddai’r Archwiliwr, mae niferoedd staff i lawr fwy nag 16%.

‘Tros y dibyn’

Mae’r gwasanaethau mewn peryg o fynd tros y dibyn, meddai’r adroddiad, ac mae angen “edrych yn radical ar aildrefnu a thrawsnewid y gwasanaethau”.

Fe ddylai cynghorau sir ystyried cydweithio, preifateiddio a chodi pris am rai gwasanaethau, meddai’r adroddiad.

Ac mae Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad wedi cefnogi’r alwad.

“Mae angen mynd i’r afael â’r sefyllfa cyn y bydd iechyd y cyhoedd yn cae ei beryglu,” meddai Darren Millar.

Mae adrannau iechyd yr amgylchedd yn gyfrifol am feysydd fel rheoli pla a rheoli afiechydon cyhoeddus.

Sylwadaur Archwiliwr

“Mae gwasanaethau iechyd yr amgylchedd yn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau,” meddai’r Archwiliwr, Huw Vaughan Thomas. “Maen nhw’n chwarae rôl bwysig wrth sicrhau bod gyda ni drefi a chymdogaethau iach.

“Mae toriadau gwario cynyddol ac adweithiol yn golygu bod gwasanaethau iechyd amgylchedd o dan bwysau cynyddol ac mewn peryg o fethu.

“Rhaid i gynghorau ddod o hyd i ffyrdd mwy effeithiol ac effeithlon o weithredu os ydyn nhw am barhau i ddarparu’r gwasanaethau pwysig yma i’r cyhoedd yng Nghymru a chwrdd â’u cyfrifoldebau yn awr ac yn y dyfodol.”