Yr hen ddisgiau treth - roedd gwefannau'n codi pris am wneud gwaith y DVLA
Mae Aelod Seneddol o Gymru yn galw am weithredu yn erbyn gwefannau sy’n esgus bod y n wefannau llywodraeth ac yn blingo pobol o gannoedd o bunnoedd.

Mae Chris Evans, AS Islwyn, wedi cael cyfle i godi’r mater mewn dadl fer yn Nhŷ’r Cyffredin ac fe fydd yn sôn am rai pobol sydd wedi colli cymaint â £1,000 oherwydd y gwefannau.

“Y cyfan y maen nhw’n ei wneud yw elw digywilydd,” meddai wrth siarad gyda Radio Wales.

Sut mae’r gwefannau’n gweithio

Mae’r gwefannau’n dynwared gwefannau swyddogol y Llywodraeth, fel rhai gwasanaeth trwyddedu ceir y DVLA yn Abertawe.

Maen nhw’n cynnig gwasanaethau fel adnewyddu trwyddedau ond yn codi pris ar ben y pris sylfaenol am wneud hynny – er nad ydyn nhw’n cynnig dim ychwanegol.

“Maen nhw’n edrych yn debyg iawn i wefannau’r llywodraeth, o ran teimlad a golwg,” meddai Chris Evans, sy’n dweud bod pobol llai cyfarwydd â thechnoleg yn aml yn cael eu twyllo.

Mae Chris Evans yn galw am greu un rhif ffôn i bobol gysylltu gydag ef am help ac am ymgyrch gan y Llywodraeth i dynnu sylw at beryg y gwefannau hyn.