Fe fydd grŵp Banc Lloyds yn torri 9,000 o swyddi a chau 150 o ganghennau yn ystod y tair blynedd nesa’.
Dyna fydd rhan o’r strategaeth, meddai pennaeth y cwmni, wrth iddyn nhw geisio sicrhau gwell bargen i’w cyfranddalwyr a defnyddio mwy ar dechnoleg fodern.
Ond mae undeb sy’n cynrychioli gweithwyr banc wedi rhybuddio am ansicrwydd iddyn nhw ac effaith ar wasanaeth i gwsmeriaid.
Cynnydd mewn elw
Heddiw, roedd y banc yn cyhoeddi ei ffigurau am drydydd chwarter y flwyddyn ariannol, gydag elw sylfaenol yn codi 41% i £2.2 biliwn.
Ond, fe fydd hynny’n ymddangos yn llawer llai wrth i’r banc orfod rhoi £900 miliwn arall o’r neilltu yn iawndal am gamwerthu cynnyrch yswiriant PPI.
Mae chwarter cyfrannau Lloyds yn dal i fod yn nwylo’r Llywodraeth ers chwalfa ariannol 2008 ond, yn ôl y Prif Weithredwr, mae bellach yn fanc “saff ac effeithiol iawn”.
“Fe fydd cam nesa’ ein strategaeth yn defnyddio’r sylfeini cry’ yma yn sail i gwrdd ag anghenion cyfnewidiol ein cwsmeriaid, ac yn dangos sut y byddwn yn cynyddu’r busnes mewn ffordd a fydd yn cynnig gwerth cynyddol a chynaliadwy i’n cyfranddalwyr,” meddai Antonio Horta-Osorio.
Undeb yn beirniadu
Ond, mae undeb Unite, sy’n cynrychioli llawer o’r 88,000 o weithwyr sydd gan Lloyds, yn beirniadur toriadau.
“Does neb yn gwybod beth fydd effaith torri 10% o swyddi ar wasanaeth i gwsmeriaid a bydd yn rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar staff sydd wedi helpu i gael y banc yn ôl ar y llwybr iawn,” meddai’r swyddog cenedlaethol, Rob McGregor.