Rhun ap Iorwerth yn cyflwyno'r gwaith papur (Llun: Plaid Cymru)
Mae hawliau maenorol a gafodd eu cofrestru ar 4,000 o dai ar Ynys Môn wedi cael eu dileu ar ôl brwydr hir gan drigolion yr ynys a’u Haelod Cynulliad.
Llynedd fe gafodd trigolion y tai gael gwybod bod hawliau maenorol ar eu tiroedd wedi cael eu cofrestru gan Stephen Hayes, dyn busnes o Gaer oedd wedi prynu teitl Arglwydd maenor Treffos.
Ond ar ôl pwysau gan wleidyddion yr ynys fe ddywedodd Hayes y byddai’n gollwng ei gais am yr hawliau, a ddoe fe gyflwynwyd dogfennau’n cadarnhau hynny i’r Gofrestrfa Dir, gan yr Aelod Cynulliad, Rhun ap Iorwerth.
Ymgyrch hir
Roedd yr hawliau hynafol yn golygu bod gan yr arglwydd hawliau dros hela, pysgota a mwyngloddio ar diroedd yn yr ynys.
Roedd hynny wedi achosi pryder mawr i tua 4,000 o deuluoedd pan gawson nhw lythyr yn rhoi gwybod am yr hawliau – fe allai’r trigolion fod wedi wynebu anawsterau wrth geisio ail-forgeisio neu werthu’u tai.
Fe ddaeth tuag 800 i gyfarfod cyhoeddus ym mis Chwefror i fynegi’u pryderon ond, funudau cyn dechrau’r cyfarfod fe ddywedodd Stephen Hayes na fyddai’n mynnu cadw’i hawliau, a ddoe fe arwyddodd y gwaith papur terfynol i gadarnhau hynny.
“Mae hi wedi bod yn broses hir, ac yn un hynod o rwystredig,” meddai Rhun ap Iorwerth ar ôl cyflwyno’r gwaith papur terfynol i’r Gofrestrfa Dir ar lannau Mersi.
“Allwn i fod wedi rhoi’r ffidil yn y to, ond roeddwn yn gwybod pa mor bwysig oedd hwn i fy etholwyr.”
Newid y gyfraith?
Dywedodd swyddogion y Gofrestrfa Tir y bydden nhw’n ysgrifennu at bob perchennog oedd wedi’i gofrestru i’w cynghori nhw fod y rhybudd unochrog wedi cael ei ddiddymu unwaith y bydden nhw wedi prosesu’r cais.
Pan godwyd y pryderon i ddechrau fe ddywedodd Aelod Seneddol Môn Albert Owen ei bod hi’n “absẃrd” fod deddfau hynafol o’r fath yn dal i gael eu defnyddio heddiw.
Ac mae Rhun ap Iorwerth yn gobeithio y gwnaiff yr ymgyrch hon arwain at newid yn y gyfraith y gael gwared â’r hawliau’n gyfan gwbl.
“Bydd fy etholwyr yn gallu cysgu’n dawel wedyn,” meddai.
“Ond mae hwn hefyd yn garreg filltir yn yr ymgyrch i ddileu’r Hawliau Maenorol hynafol. Os gall ‘Arglwydd y Maenor’ ei hun gael ei berswadio fod yr hawliau yma’n annheg, yna does bosib na all y llywodraeth weld hynny hefyd.”