Dyfed Edwards - 'gorfod gweithio o fewn fframwaith'
Fydd y ddau gyngor sir sydd dan reolaeth Plaid Cymru ddim yn herio’r Llywodraeth trwy wrthod gweithredu Cynlluniau Datblygu Lleol sy’n gosod ffigurau ar gyfer codi tai newydd.
Ond maen nhw’n cefnogi galwad cynhadledd y Blaid am edrych eto ar y cynlluniau sy’n cael eu beirniadu am hybu mewnfudo a gwneud drwg i’r iaith.
Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gynghorau Gwynedd a Cheredigion i wneud “popeth posib o fewn eu gallu” i weithredu penderfyniad y gynhadledd a oedd yn galw am ddileu’r Cynlluniau Datblygu presennol.
Ond, yn ôl Llywodraeth Cymru, mae Cynlluniau Datblygu Lleol yn orfodol yng Nghymru a byddai’r Llywodraeth yn gallu cymryd y grym trostyn nhw pe bai “awdurdodau cynllunio lleol yn methu â bodloni eu dyletswydd statudol”.
Cefndir
Pleidleisiodd y cynadleddwyr yn gryf o blaid y cynnig i ddiddymu’r Cynlluniau Datblygu Lleol, yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Llangollen ddydd Sadwrn, gan wrthod gwelliant i weithio i wella’r system bresennol.
Yn ôl cefnogwyr y cynnig mae’r system yn arwain at or-ddatblygu a dinistrio cymunedau Cymraeg – roedd cynlluniau honedig i gynyddu poblogaeth Cymru o 33% fel “Tryweryn yr unfed ganrif ar hugain”, meddai Neil McEvoy arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd.
Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi sefydlu pwyllgor gweithredu yng Ngwynedd a Môn oherwydd pryderon am effaith iaith cynlluniau’r siroedd i adeiladu 8,000 o dai newydd yn rhan o’u Cynlluniau Datblygu Lleol.
Gwynedd a Môn oedd yr unig ddwy sir yng Nghymru lle mae’r mwyafrif yn dal i siarad yr iaith, yn ôl cyfrifiad 2011.
Datblygiad pwysig
Mae Ben Gregory ar ran pwyllgor gweithredu Cymdeithas yr Iaith wedi herio’r ddau gyngor i weithredu penderfyniad y gynhadledd.
“Yn ymarferol mae Plaid Cymru’n arwain dau awdurdod lleol yng Nghymru – Gwynedd a Cheredigion,” meddai.
“Felly rydym yn disgwyl y bydd y ddau Gyngor yma’n cydnabod penderfyniad eu Cynhadledd Flynyddol ac yn gwneud popeth posib oddi fewn eu gallu i weinyddu’r penderfyniad yn unol â dyheadau aelodau’r Blaid.”
Ymateb y Cynghorau
Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards mai “mater i Lywodraeth Cymru ydi penderfynu pa fframwaith cynllunio i’w weithredu.”
“Rôl Awdurdodau Cynllunio ydi gweithio o fewn y fframwaith hwnnw a dyna fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud nes bydd unrhyw fframwaith newydd yn cael ei gyflwyno gan unrhyw Lywodraeth newydd wedi Etholiad 2016,” meddai.
Dywedodd arweinydd Cyngor Cerdigion, Ellen ap Gwynn, y byddai’n “croesawu y cyfle i adolygu ein CDLl ni fel ei fod yn fwy addas i’n hanghenion” ond ychwanegodd nad oedd modd gwneud hynny gan ei fod eisoes yn ddogfen statudol.
“Mae cynnig y Gynhadledd yn gofyn i unrhyw lywodraeth Plaid Cymru i’r dyfodol i adolygu’r system gynllunio bresennol i sicrhau polisiau a chynlluniau datblygu i bob awdurdod lleol yn ôl yr angen yn yr awdurdod hwnnw.
“Buaswn i a sawl cynghorydd yng Ngheredigion yn croesawu y cyfle i adolygu ein Cynllun Datblygu Lleol ni fel ei fod yn fwy addas i’n hanghenion.
“Bydd ACau y Blaid yn cyflwyno gwelliannau i Fil Cynllunio newydd Llywodraeth Lafur Cymru fel mae’n mynd trwy’r prosesau craffu o fewn y Cynulliad”.
Datganiad y Llywodraeth
“Mae Cynlluniau Datblygu Lleol yn orfodol yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae gan bob awdurdod cynllunio lleol ddyletswydd statudol o dan y Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 i baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer ei ardal, i’w gyflwyno ar gyfer archwiliad annibynnol ac i’w fabwysiadu yn unol ag argymhellion yr arolygydd annibynnol.
“Lle mae awdurdodau cynllunio lleol yn methu â bodloni eu dyletswydd statudol, mae gan Weinidogion Cymru bwerau ymyrryd wrth gefn o roi cyfarwyddyd neu alw i mewn.”