Logo Boko Haram
Mae merched ifanc yn parhau i gael eu cipio gan garfan filwrol Boko Haram yn Nigeria, yn ôl mudiadau hawliau a swyddogion llywodraeth.

Mae hynny’n codi amheuon am gytundeb heddwch a oedd i fod i arwain at ryddhau mwy na 200 o ferched a oedd wedi eu cipio ym mis Ebrill.

Fe fu ymgyrch ryngwladol i geisio rhyddhau’r rheiny ond, yn ôl cadeirydd y llywdraeth mewn ardal yn nhalaith Borno, roedd 30 o ferched a bechgyn ifanc wedi eu cipio yno yn ystod y dyddiau diwetha’.

Yn ôl adroddiadau eraill, fe gafodd o leia’ 40 o ferched ifanc eu herwgipio ar 18 Hydref, y diwrnod ar ôl i Lywodraeth Nigeria gyhoeddi’r newyddion am y cytundeb.

Ymladd yn parhau

Mae’n ymddangos bod yr ymladd yn parhau rhwng y ddwy ochr, gydag un dref o’r enw Abadam wedi newid dwylo ddwywaith yn yr un cyfnod.

Mae arweinydd Boko Haram wedi dweud eu bod yn cipio’r merched oherwydd fod Llywodraeth Nigeria yn caethiwo perthnasau eu haelodau nhw,  a hynny’n groes i’r gyfraith.