Shelley Rees-Owen, a arferai chwarae rhan Stacey ar Pobol y Cwm (llun: S4C)
Mewn araith yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Llangollen, mae ymgeisydd seneddol wedi apelio ar bobl y Cymoedd i beidio â chymryd eu twyllo gan Ukip.

Daw hyn ar ôl i’r blaid wrth-Ewropeaidd ddod o fewn trwch blewyn i fod ar y brig yng Nghymru yn etholiad Ewrop ym mis Mehefin.

Dywedodd Shelley Rees-Owen, ymgeisydd Plaid Cymru yn y Rhondda yn etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf, ei bod yn benderfynol o gynnig ‘dewis cadarnhaol’ i etholaeth flinedig y Blaid Lafur yno.

“Does dim rhyfedd fod nifer yn y Rhondda, sydd wedi cael hen ddigon ar fethiant Plaid Lafur sy’n llawn geiriau cynnes ond sydd wedi methu â chyflawni, yn chwilio am ddewis amgen,” meddai.

“Bosib y bydd rhai yn ystyried cefnogi’r lleisiau cras hynny sydd am daflu’r bai am ein holl broblemau ar Ewrop.

“Fydda i ddim yn gadael iddyn nhw dwyllo pobl drwy esgus bod ar ochr y werin, tra ar yr un pryd yn cuddio’u hagenda go iawn o dorri hawliau gweithwyr, torri gwasanaethau cyhoeddus a gwneud pobl gyfoethog yn fwy cyfoethog fyth.

“Byddaf yn annog pobl i gefnogi’r dewis amgen i’r Blaid Lafur flinedig: sef, wrth gwrs, Plaid Cymru.”