Senedd yr Alban
Mae arweinydd y blaid Lafur yn yr Alban, Johann Lamont, wedi ymddiswyddo yng nghanol ffrae ynghylch y ffordd y caiff ei phlaid ei rhedeg ar lefel Brydeinig.
Gan honni nad yw ei chyd-wleidyddion yn Lloegr yn deall gwleidyddiaeth yr Alban, mae’n cyhuddo’i phlaid yn Llundain o danseilio ei harweinyddiaeth.
Wrth gyhoeddi ei hymddiswyddiad, meddai wrth bapur newydd y Daily Record:
“Yn union fel mae rhaid i’r SNP dderbyn mai datganoli yw dewis pobl yr Alban, rhaid i’r Blaid Lafur gydnabod bod yn rhaid i’r blaid yn yr Alban gael rheolaeth dros ei materion ei hun ac nid yn gangen o blaid sydd wedi’i lleoli yn Llundain.
“Mae peryg i wleidyddiaeth yr Alban gael ei wasgu rhwng dwy set o ddeinosoriaid … y Cenedlaetholwyr na allan dderbyn iddyn gael eu gwrthod gan bobl yr Alban a rhai cydweithwyr yn San Steffan sy’n credu nad oes dim wedi newid.”
‘Tanseilio’
Dywed fod arweinwyr Llafur yn Llundain wedi tanseilio ei hawdurdod wrth iddi geisio diwygio’i phlaid yn yr Alban, a bod hyn yn cynnwys diswyddo ysgrifennydd cyffredinol Llafur yn yr Alban heb ymgynghori â hi.
“Mae unrhyw arweinydd y gellir cael gwared ar ei ysgrifennydd cyffredinol heb unrhyw ymgynghori mewn sefyllfa amhosibl,” meddai.
“Cafodd hyn ei drefnu gan bobl nad ydyn nhw’n deall bod yr Alban wedi newid am byth ar ôl y refferendwm.
“Mae’r Alban wedi dewis ymreolaeth – nid rheolaeth o Lundain.”
Wrth ddymuno’n dda i Johann Lamont, dywedodd darpar Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, fod Llafur yr Alban mewn llanast llwyr os yw’r adroddiadau am yr holl raniadau yn gywir.
Ymysg yr enwau sydd wedi cael eu crybwyll fel olynwyr posibl i Johann Lamont mae’r cyn-brif weinidog Gordon Brown.