Llanberis a Llyn Padarn
Mae disgwyl i dros 2,500 o redwyr ddod ynghyd yn Llanberis heddiw i baratoi ar gyfer Marathon Eryri.

Yn ôl y trefnwyr dyma’r nifer mwyaf erioed o redwyr i gofrestru ar gyfer y ras, sy’n  dathlu ei phenblwydd yn 32 oed eleni.

Bydd rhedwyr o bob cwr o’r byd yn rhedeg 26.3 milltir i gopa Pen y Pass, i lawr o Ben y Gwryd  i Feddgelert  ac yna i Waunfawr. Fe fyddan nhw wedyn yn rhedeg i fyny i Fwlch y Groes cyn gorffen yn Llanberis.

Ni fydd enillydd ras 2013, Rob Samuel, yn cymryd rhan eleni oherwydd anaf ond mae gobaith y gall y teitl yn aros yn nwylo’r Cymry, gyda phwysau mawr ar ysgwyddau Alun Vaughan o Lanberis.

Diolch

Meddai’r trefnydd Jayne Lloyd: “Dyma fy 10fed blwyddyn o drefnu’r marathon, a bob blwyddyn mae’r ras yn mynd yn well ac yn well.

“Mae Marathon Eryri yn cael ei weld fel un o brif farathonau Prydain erbyn hyn, ac mae’r galw am leoedd yn mynd yn uwch bob blwyddyn.

“Dydyn ni ddim wir eisiau i’r digwyddiad dyfu yn llawer mwy o ran niferoedd felly rydym yn awr yn edrych ar y profiad a mwynhad ffactor y digwyddiad.

“Mae’r bobol a busnesau lleol yn ddioddef wrth i ni reoli traffig yn ystod y ras, ond maen nhw’n parhau i roi ni y gefnogaeth yr ydym ei angen i wneud y digwyddiad yn llwyddiannus. Rydym ni fel trefnwyr yn ddiolchgar iawn. ”

Bydd y ras yn dechrau 10:30 y bore.