Y Parchedig Wiliam Owen o Gaerfarchell oedd un o drefnwyr Gŵyl Jâms Niclas yn Nhyddewi dros y penwythnos. Thema’r ŵyl oedd cadwyn o englynion y cyn-Archdderwydd, ‘Ffordd y Pererinion’ …
Wy’n teimlo ar ben fy nigon. Roedd ewyllys da o blaid yr ŵyl ac fe ddisgleiriodd hwnna drwy’r holl weithgareddau.
Yn ei ddarlith nos Wener, fe gydiodd T James Jones, Jim Parc Nest, yn yr elfennau sylfaenol ym meddylfryd ac yng ngweledigaeth Jâms Niclas, a darlunio’i bersonoliaeth e yn fyw iawn, ei berthynas gyda Hazel ei wriag a’r ffordd yr oedd yn gallu ymroi i dasg ac efallai colli golwg ar bopeth oedd yn mynd rownd iddo fe wrth wneud! A’r dewrder eithriadol oedd gydag e pan aeth e i Gymreigio’r Ygsol Uwchradd y Preseli yng Nghrymych. Mae effaith y peth i’w weld heddiw. Ro’n i lan yna yn ddiweddar yn mynd â phosteri; ro’n i’n gallu mynd i unrhyw siop yn yr ardal yna a siarad unai yn syth yn uniaith Gymraeg gyda phwy bynnag oedd tu ôl i’r cownter, a hyd yn oed os oedden nhw’n ateb yn Saesneg ro’n nhw yn ateb yn ystyrlon. Mae rhai yn cofio Jâms fel prifathro arnyn nhw.
Wêdd rhai o’r bobol sy’n cystadlu yn Eisteddfod Tyddewi – mae hi’n Eisteddfod ddwyieithog – yn dweud ‘so ni di cael gwersi ffurfiol yn sgrifennu’. Eto maen nhw’n blawdo arni ac yn cael hwyl anghyffredin ac fe gawson nhw’r syniad o gael sesiwn safonol mewn sgrifennu. Fe gawson ni hynny gan Mererid Hopwood. Aeth hi â ni drwy reolau sylfaenol y gynghanedd. Fe roddodd hi weithdy yn ei ffordd ei hun – yn trafod pethe astrus yn syml eglur, yn llwyddiannus iawn.
Hanesion lleol
Wedyn roedd Hedydd Hughes o Ben-caer [Strumblehead] yn sôn am storiau o’r ardal. Fel y gwenynwr Myddyfnog a oedd yn fynach gyda Dewi Sant, a hwnnw wedi dod i Iwerddon yn perthyn i deulu uchel yr O’Neills. Bob tro’r oedd e’n mynd yn ôl i Iwerddon roedd y gwenyn yn ei ddilyn e, ac fe aeth e nôl deirgwaith i fynd â’r gwenyn yn ôl at Dewi. A Dewi’n gorfod dweud yn y diwedd, ‘cer gatre gwboi a cher â’r gwenyn ‘da ti.’ A stori arall am y rhocesi yn Nhrefin ryw ganrif yn ôl a llongddrylliad. Fe ffurfion nhw raff trwy blethu’u breichiau allan i ganol y ddrycin at y llong ac fe lwyddon nhw i achub ryw 32 o forwyr. Fe ganwyd cân o fawl iddyn nhw, gan fardd o Lynebwy.
Mae Hedydd yn un o tua 8 yn y pwyllgor; gyda Glenys James a’i gŵr John, Gwenan a finne, Gareth Evans yn cynorthwyo gyda’r stiwardio ac yn cyflwyno ambell i beth; Anne Watts sydd wedi gadael bod yn ddysgwraig erbyn hyn ac mae hi’n siarad ac yn gweithredu’n Gymraeg i raddau helaeth; Rebecca Thornton, y trysorydd, ac roedd hi fel y banc, yn gadarn iawn.
Wedyn wêdd Eleri Roberts yn canu fersiynau Sir Benfro o alawon gwerin. Roedd Trefor Pugh wedi dod efo hi, a Peter Rees o Drefochlyd, canwr lleol. Er enghraifft, mae alaw leol ‘Ar Lan y Môr’ yn hollol wahanol, ond yr un geiriau yn union. Fe gofnodwyd fersiwn arbennig o’r alaw ‘Mwmba’ ddim yn bell o Drefin, ac fe ganwyd honno. Fe ganon ni ‘Y Mochyn Du’ a mynd drwy holl drafferthion angladdol y mochyn…. Ac wedyn mae fersiwn Saesneg o’r geiriau sy’n anhygoel o ddigrif.
Roedd Dyfed Elis Gruffydd yn sôn am agweddau daearegol y golygfeydd roedd Jâms wedi’u gweld a’r ffordd roedd y rheiny wedi gosod strwythur ar gyfer y golygfeydd.
Lawr ar waelod y ddinas, yn festri Capel y Tabernacl, roedd plant o bum ysgol cynradd o’r ardal – Cas-mael, Llanerchllwydog, Bro Dewi, Solfach a Chroes Goch – yn gwneud gwaith celf gyda Sarah Young ac Aelwen Lee. Yn y p’nawn fe wnaeth plant o Ysgol Bro Gwaun ruban hir llydan o bapur llwyd a dilyn y ffordd o gyfeiriad Abergwaun draw i Dyddewi, a darnau o farddoniaeth, darnau o luniau, pethau oedd yn esbonio y gwahanol feini a’r camau ar y ffordd. Ro’n i’n teimlo bod yna wefr wedi bod lawr yn y gwaelod.
A’r cwbwl yn dod lan i’r seremoni glo – John Evans, dyn o Dyddewi a hen ffrind i Jâms Niclas yn darllen yr englyn ola’ o’r gadwyn ‘Ffordd y Pererinion’ a dwyn ei atgofion o Jâms. Ac wedyn gyda’r hwyr, twmpath i fennu gyda’r Gower Allsters, bachgen o Fro Gŵyr a merch o Estonia. Roedden nhw’n chwarae’n wych. Mae yna dwmpathwyr wrth reddf, yn does e.
Pam gŵyl ddwyieithog?
Roedd y cwbwl yn Oriel y Parc, ac fe gymeron ni’r tŵr ar gyfer grŵp Saesneg dysgwyr dwyieithog a grŵp uniaith Gymraeg wedyn. Roedd dwy reswm am greu gŵyl ddwyieithog; fe allen ni ei ’neud e’n uniaith Gymraeg, ond wedyn fe fydden ni’n gosod ein hunen mewn bocs. Fe fyddai lot yn Nhyddewi sy’n dysgu’r Gymraeg, â diddordeb neu yn gefnogol i’r Gymraeg – a shwd y’ch chi yn creu darpariaeth iddyn nhw, a thrwy hynny yn amddiffyn y ddarpariaeth uniaith Gymraeg y Cymry Cymraeg? Cymerwch Mererid Hopwood er enghraifft, roedd hi mewn un stafell yn ’neud y Gymraeg, tra’r oedd Eleri yn gwneud y Saesneg mewn stafell arall. Ro’n nhw’n twclo (cyfnewid) wedyn, ac Eleri yn dod at y grŵp Cymraeg a Mererid yn mynd i’r grŵ Saesneg yn stafell y tŵr. Gawson ni ymateb cadarnhaol iawn; roedd pawb yn teimlo eu bod nhw wedi cael gwefr. Pan y’ch chi’n cael pobol o safon Jim Parc Nest, Mererid Hopwood, Hedydd Hughes, a Dyfed Elis Gruffydd yn dod â rhannu gwybodaeth a phrofiad gyda chi … roedd hi’n troi yn rhyw fath o seiat erbyn diwedd.
Roedd pawb yn teimlo ac yn cofio am weddw Jâms, nad yw yn yr iechyd gorau ar hyn o bryd. Ond roedd ei deulu fe, ei ferched e a’u teuluoedd, wedi dod i gefnogi.
Y cam nesa’ sy’ gyda ni nawr yw anelu am Eisteddfod Tyddewi 2015 a fydd yn cael ei chynnal ar Chwefror 28. Ble ond yn Nhyddewi y gallwch chi ddathlu Gŵyl Dewi Sant? Mae hi’n orlawn – fe gewch chi tua 400 i 500 o bobol yn Neuadd y Ddinas. Yn fwy na hynna, ar y Sadwrn, mae parêd y dreigiau a phawb yn gwisgo lan fel dreigiau ac yn cerdded lawr y brif ffordd, ac mae oedfa’r Cyngor y Sul wedyn. R’yn ni’n gobeithio lledu’r Eisteddfod i’r gymuned gyfan maes o law.
Dair blynedd yn ôl roedd y gystadleuaeth adrodd, a dyma merch o’r enw Maud yn dod i fyny yn ei chadair olwyn. Gyda’r llais clir tawel yma, dyma hi’n adrodd cerdd Dewi Emrys, ‘Pwllderi’. Fe ddaeth hi i stop ryw ddwy ran o dair o’r ffordd ymlaen, a dyma’r arweinydd yn meddwl ‘dyna fe te’, a dyma fe’n mynd ati a d’wedodd hi, ‘na, sa i wedi bennu ‘to’. Wedi iddi gael ei hanadl fe aeth hi ymlaen i’r diwedd. Allech chi ddim rhoi llai na’r wobr gynta i fenyw 98 oed am adrodd ‘Pwllderi’. Roedd hi wedi marw cyn yr Eisteddfod wedyn, a phan aethon ni i’r angladd beth oedd yno ar ei harch hi mewn ffrâm oedd y dystysgrif yr oedd hi wedi’i hennill, a’r deyrnged fel pennill bach a sgrifennodd y beirniad iddi. Dyna’r munudau arbennig ry’ch chi’n eu cael.