Mae 65% o blant wyth i 15 oed yn gorfod gwneud gwaith tŷ i gael pres poced, wrth i rieni geisio eu dysgu am werth arian.
Yn ôl gwaith ymchwil banc yr Halifax, twtio’r ystafell wely yw’r brif dasg mae plant yn ei wneud er mwyn derbyn arian. Wedyn daw golchi llestri – ond mae plant yn osgoi smwddio, gwneud bwyd a siopa.
Mae mwy o enethod na bechgyn yn derbyn pres poced am helpu yn y cartref: 45% o enethod a 39% o fechgyn yn derbyn tâl am dwtio eu stafelloedd gwely.
Bu cynnydd bychan o 4% yn nifer y plant sy’n dweud eu bod yn gweithio am eu pres poced, o gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl Richard Fearon, Pennaeth Cynilion yr Halifax, mae’n “beth gwych bod plant heddiw yn dysgu am y cysyniad o sut i ennill arian a gwerth arian drwy bres poced”.
Pres poced wedi cynyddu 575% ers 1987
Ers 1987, pan gychwynnodd Halifax yr arolwg, mae pres poced wedi cynyddu fwy na’r cyflog cyfartalog.
Rhwng 1987 a 2014 bu cynnydd o 188% yn y cyflog cyfartalog.
Ond yn yr un cyfnod mae pres poced wedi codi o £1.13 yr wythnos yn 1987 i £6.35 eleni, sef cynnydd o 575%.
Yn 1987 roedd plentyn yn medru prynu sach bag o greision gyda’i bres poced, ond gall brynu 12 sach erbyn hyn.