Mae dyn o’r Alban wedi marw ar ôl cael ei saethu mewn bar yn Brasil.

Fe gafodd Jason Richard Stevens, 39, ei ladd yn Sao Paulo ddydd Mercher.

Yn ôl adroddiadau roedd un dihiryn honedig yn dwyn oddi ar gwsmeriaid tra bo un arall wrth y drws.

Fe geisiodd Jason Richard Stevens siarad gydag un o’r lladron, cyn cael ei saethu.

Credir bod y ddau wedi dianc mewn car yn cael ei yrru gan drydydd dyn.

Fe gafodd y cyfieithydd o’r Alban ei gludo i’r ysbyty ond bu farw o’i anafiadau.

Nid oes neb wedi ei arestio hyd yma.