Mae Llywodraeth Cymru’n lansio cynllun heddiw i annog pobol ifanc i ymddiddori mewn gwyddoniaeth.
Mae’r Gweinidog Addysg Huw Lewis yn ymweld ag Ysgol Afon Taf ym Merthyr Tudful i lansio cynllun ‘Cymwys am Oes – Canolbwyntio ar Wyddoniaeth’.
Bydd y gwyddonydd byd enwog Dr Lyn Evans hefyd yn ymweld â’r ysgol, ynghyd â Phrif Ymgynghorydd Gwyddoniaeth Cymru, yr Athro Julie Williams.
Byddan nhw’n trafod manteision dilyn gyrfa ym myd gwyddoniaeth.
‘Gwyddoniaeth yn hwyl’
“Mae cymwysterau gwyddoniaeth yn hanfodol i economi gref a dyfodol llewyrchus ac rwy’n gobeithio y bydd yr ymgyrch yma’n annog llawer iawn mwy o bobol ifanc i feddwl yn ofalus am yrfa ym myd gwyddoniaeth,” meddai Huw Lewis.
“Rydyn ni am ledaenu’r neges fod gwyddoniaeth yn hwyl, fod y sgiliau a’r wybodaeth sy’n cael eu dysgu mewn gwersi gwyddoniaeth yn hollol berthnasol i nifer o swyddi a diwydiannau, ac y gall gwyddoniaeth arwain at yrfa sy’n ysgogi ac sy’n fuddiol yn ariannol.”
Ychwanegodd fod y cynllun yn anelu at gynyddu nifer y merched sy’n dilyn gyrfaoedd ym myd gwyddoniaeth – merched yw 18% yn unig o’r disgyblion sy’n astudio Ffiseg ar gyfer Safon Uwch.
Rhan o’r cynllun yw datblygu deunydd dwyieithog i helpu athrawon a disgyblion i astudio gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.