Y firws
Mae’r achos cynta’ o’r clefyd ebola yn Efrog Newydd wedi’i gadarnhau ar ôl i feddyg oedd wedi bod yn gweithio yng ngorllewin Affrica ddychwelyd â’r afiechyd.

Craig Spencer, a fu’n gweithio i’r elusen feddygol Medicins Sans Frontieres, yw’r pedwerydd achos o Ebola yn yr Unol Daleithiau.

Fe ddychwelodd y meddyg 33 oed yr wythnos diwetha’ ar ôl bod yn Guinea am fis, ac mae archwilwyr meddygol nawr yn chwilio am bobl eraill a all fod wedi dal yr afiechyd ganddo.

Mae’r afiechyd wedi bod yn lledu yng ngorllewin Affrica ers misoedd ac wedi lladd mwy na 4,800 o bobol hyd yn hyn o blith y 9,000 sydd wedi dal ebola.

Hyd yn hyn mae mwy na 440 o weithwyr meddygol wedi dal yr haint, gyda thua hanner y rheiny’n marw.

Rhybudd am waethygu

Yn y cyfamser mae ymchwilwyr o’r Unol Daleithiau wedi rhybuddio y gallai’r sefyllfa waethygu eto os nad yw’r gymuned ryngwladol yn rhoi mwy o gymorth i atal ebola rhag lledaenu.

Ar hyn o bryd mae Liberia, Sierra Leone a Guinea yn cael eu heffeithio’n wael gan yr afiechyd, ond mae Nigeria a Senegal bellach wedi cyhoeddi’u bod nhw wedi llwyddo i ddileu’r clefyd yno.

Yn ôl gwyddonwyr o Ysgol Iechyd Cyhoeddus Prifysgol Yale fe allai hyd at 170,000 o bobol ddal yr afiechyd yn rhanbarth Montserrado o Liberia, gyda 90,000 o’r rheiny yn marw.

“Mae ein hamcangyfrifon ni’n dangos fod rhaid i ni actio’n sydyn i reoli’r afiechyd hwn, er mwyn atal y nifer o achosion newydd o Ebola rhag cynyddu’n sylweddol yn y misoedd nesaf,” meddai’r Athro Alison Galvani oedd yn rhan o’r ymchwil.

Cyfraniad arall gan Brydain

Mae David Cameron wedi cyhoeddi y bydd Prydain yn rhoi £80m yn ychwanegol i geisio taclo’r afiechyd yng ngorllewin Affrica, gan annog gwledydd Ewropeaidd eraill i wneud yr un peth.

Dywedodd y Prif Weinidog mewn cynhadledd ym Mrwsel mai ebola a dirywiad economaidd oedd y ddau brif fygythiadau i Ewrop ar hyn o bryd.

Mae’r swm newydd yn dod â chyfanswm cyfraniad Prydain i £205m, traean o gyfanswm yr holl arian y mae llywodraethau Ewrop wedi’i gynnig.

Ond yr awgrym gan un swyddog Prydeinig oedd bod gwledydd Ewropeaidd eraill yn arafach yn ymateb gan nad oes ganddyn nhw cymaint o gysylltiadau hanesyddol â gorllewin Affrica, yn wahanol i Brydain, Ffrainc a’r UDA.