Gareth Davies
Mae Cadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru’n dweud mai’r flaenoriaeth yw cadw chwaraewyr ifanc yng Nghymru.

Yn ôl Gareth Davies, mae hynny’n bwysicach na denu sêr profiadol yn ôl o glybiau mewn gwledydd fel Ffrainc.

“Mae’n rhaid cadw’r chwaraewyr ifanc,” meddai, gan gyfeirio at chwaraewyr rhyngwladol addawol fel Justin Tipuric.

Roedd Gareth Davies yn siarad gyda rhaglen Scrum Five y BBC ac mae hefyd wedi rhybyddio y gallai clybiau Ffrainc danseilio’r cwpan Ewropeaidd newydd.

Fe gafodd Gareth Davies ei ethol yn Gadeirydd ynghynt yr wythnos yma ar ôl i’w ragflaendd, David Pickering, fethu â chael ei ailethol i Fwrdd yr Undeb.