Llys y Goron Caerdydd
Mewn achos yn Llys y Goron Caerdydd, mae barnwr wedi dweud wrth y rheithgor i anwybyddu eu hemosiynau, wrth iddyn nhw ddechrau ystyried eu dyfarniad yn achos dyn digartref sydd wedi’i gyhuddo o ladd dyn o Gaerffili.

Cafodd David Alun Lewis, oedd yn gaeth i alcohol ac yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, ei ddarganfod yn farw ar ôl cael ei grogi o dan bont yng Nghaerdydd ar 19 Mawrth.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod David Lewis, 45 oed, wedi cael tua 80 o anafiadau i’w ben yn ystod yr ymosodiad ar Ffordd Penarth.

Mae Gareth Wyn Jones , 28, a oedd yn ddigartref ac wedi ei ryddhau o’r carchar bum diwrnod cyn yr ymosodiad, wedi cyfaddef lladd David Alun Lewis, ond mae’n gwadu ei lofruddio.

Cefndir

Clywodd y rheithgor fod Gareth Wyn Jones, sy’n cael ei gadw mewn ysbyty meddwl, wedi cael magwraeth drawmatig ac wedi dioddef o iselder fyth ers hynny.

Mae’r amddiffyniad yn honni nad oedd yn ei iawn bwyll yn ystod yr ymosodiad, ac nad oedd felly’n gyfrifol am ei weithredoedd.

Ond mae’r erlyniad yn dadlau fod Gareth Wyn Jones wedi taro David Alun Lewis gyda bricsen a photel, cyn ei adael i farw, er mwyn dwyn ei arian i brynu cyffuriau.

Wrth gloi’r achos heddiw, dywedodd yr Ustus Nicola Davies wrth y rheithgor na all eu cydymdeimlad chwarae rhan yn eu penderfyniad.

“Mae’n rhaid selio eich barn ar y dystiolaeth yn unig,” meddai wrth i’r rheithgor ddechrau ystyried a oedd Jones yn ei iawn bwyll pan ymosododd ar David Lewis.